Llansantffraed (Aberhonddu)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 51°54′07″N 3°16′32″W / 51.901879°N 3.275428°W / 51.901879; -3.275428

Llansantffraed (Aberhonddu)
Eglwys y Santes Ffraid.
Llansantffraid is located in Powys
Llansantffraid

Llansantffraid Powys
Cyfeirnod grid yr AO SO12SW46
    - Caerdydd 29.4 mi (47.3 km)  
    - Llundain 137.5 mi (221.3 km)  
Cymuned Tal-y-bont ar Wysg
Sir Powys
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost Aberhonddu
Yr Heddlu Dyfed-Powys
Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Brycheiniog a Sir Faesyfed
Cynulliad Cymru Brycheiniog a Sir Faesyfed
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Powys
Erthygl am bentref ym Mhowys yw hon. Gweler hefyd Llansantffraid (gwahaniaethu).

Pentref yng nghymuned Tal-y-bont ar Wysg, yn ardal Brycheiniog, de Powys, Cymru yw Llansantffraid, sydd 29.4 milltir (47.4km) o Gaerdydd a 137.5 milltir (221.3km) o Lundain. Gorwedd y pentref ar bwys y ffordd A40 tua 6 milltir i'r de-ddwyrain o Aberhonddu mewn cwm mynyddig rhwng Bannau Brycheiniog i'r gorllewin a'r Mynydd Du i'r dwyrain. Fel sawl lle arall o'r un enw yng Nghymru, enwir y pentref ar ôl y Santes Ffraid.

Gwasanaethodd yr athronydd Thomas Vaughan yn offeiriad Eglwys y Santes Ffraid yn Llansantffraed, gan astudio meddygaeth yr un pryd. Roedd yn synnu'n fawr nad oedd llawer o feddygon yng Nghymru. Fe'i taflwyd o'r plwyf yn 1650 dan Ddeddf Taenu'r Efengyl yng Nghymru oherwydd ei gydymdeimlad â'r Brenin. Ganed Thomas a'i efaill Henry yn Sgethrog, tua milltir a hanner i'r gogledd o Lansantffraed. Claddwyd Henry Vaughan ym mynwent eglwys Llansantffraed.[1]

Cynrychiolir Llansantffraid yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Kirsty Williams (Y Democratiaid Rhyddfrydol) a'r Aelod Seneddol yw Roger Wiliams (Y Democratiaid Rhyddfrydol).[2][3]


Cyfeiriadau[golygu]

  1. [1] adalwyd 1 Tachwedd 2014
  2. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014

Gweler hefyd[golygu]

CymruPowys.png Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.