Henry Vaughan
Oddi ar Wicipedia
Bardd metaffisegol yn yr iaith Saesneg oedd Henry Vaughan (17 Ebrill 1622 (?) – 28 Ebrill(?) 1695).
Ganed ef a'i efaill, yr athronydd Thomas Vaughan, yn nhreflan Trenewydd, Sgethrog, Sir Frycheiniog yn 1621/1622. Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Yr Iesu, Rhydychen, er na raddiodd yno, a bu'n astudio'r gyfraith am gyfnod yn Llundain cyn cael ei alw adref ar ddechrau Rhyfeloedd Cartref Lloegr. Roedd yn cefnogi'r blaid frenhinol yn ystod y Rhyfelau Cartref. Cafodd droedigaeth grefyddol tua'r flwyddyn 1650 o dan ddylanwad George Herbert. Bu'n darllen llyfrau defosiynol a gweithiau ar athroniaeth gudd a chyfrin. Dechreuodd weithio fel meddyg. Ysgrifennodd Katherine Philips gerdd iddo. Bu farw yn 1695 ac fe'i gladdwyd yn Llansantffraed, Sir Frycheiniog.
Llyfrau [golygu]
- Poems (1646)
- Silex scintillans (1650)
- Olor Iscanus (1651). Cyhoeddwyd gan ei gyfaill Thomas Powell, efallai.
- The Mount of Olives (1652)
- Flores Solitudinis (1654)
- Thalia Rediviva (1678)