Llangadwaladr, Powys

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref bychan ym Mhowys yw Llangadwaladr. Fe'i lleolir yn ardal Maldwyn yng ngogledd y sir, ar lethrau dwyreiniol bryniau'r Berwyn tua 3 milltir i'r de-ddwyrain o Lanarmon Dyffryn Ceiriog, tua hanner ffordd rhwng Y Trallwng a Llangollen. Bu'n rhan o'r hen Sir Ddinbych gynt.

Fel Llangadwaladr, Ynys Môn, ymddengys i'r plwyf gael ei henwi ar ôl Cadwaladr (Cadwaladr ap Cadwallon; Lladin: Catuvelladurus), a adnabyddir fel Cadwaladr Fendigaid, brenin Teyrnas Gwynedd o tua 655 hyd 682.


CymruPowys.png Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato