Pontrobert

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Felin, Pontrobert (1975).

Pentref bach sy'n gorwedd tua hanner ffordd rhwng Llanfair Caereinion i'r de a Llanfyllin i'r gogledd ym Maldwyn, Powys, ydy Pontrobert.

Enwir y pentref ar ôl yr hen bont ar afon Efyrnwy. Ceir cored ar yr afon ger y bont honno. Dwy filltir i'r de-ddwyrain o Bontrobert, i lawr y dyffryn, ceir Mathrafal, safle llys brenhinoedd Powys.

Rhed Llwybr Glyndŵr heibio i'r pentref.

Pobl o Bontrobert[golygu]


CymruPowys.png Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.