Cadwaladr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gweler hefyd Cadwaladr (gwahaniaethu).

Roedd Cadwaladr ap Cadwallon (c. 633682, teyrnasodd o c. 655) (Lladin: Catuvelladurus), a adnabyddir fel Cadwaladr Fendigaid, yn frenin Gwynedd.

Hanes[golygu]

Yr oedd Cadwaladr yn blentyn pan laddwyd ei dad, Cadwallon ap Cadfan, mewn brwydr yn erbyn Oswald o Northumbria. Cipiwyd teyrnas Gwynedd gan Cadafael Cadomedd ap Cynfeddw, a bu raid i Gadwaladr ffoi. Credir iddo fyw yn Iwerddon, Llydaw neu un o'r teyrnasoedd Cymreig eraill. Llwyddon Cadwallon i adennill teyrnas ei dad, ond nid oes gwybodaeth am sut y gwnaeth hyn. Erbyn 658 yr oedd yn ddigon grymus i ymosod ar y Saeson yng Ngwlad yr Haf, ond heb lwyddiant.

Wedi hyn, nid yw'n ymddangos i Gadwaladr arwain byddinoedd tu allan i Wynedd. Yr oedd enw iddo am fod yn frenin duwiol dros ben, a chafodd yr enw "Cadwaladr Fendigaid". Sefydlodd nifer o eglwysi yng Ngwynedd, a chredir mai ef yw'r "Cadwaladr" sy'n cael ei goffau yn enw eglwys Llangadwaladr ar Ynys Môn, lle gellir gweld carreg fedd ei daid, Cadfan ap Iago.

Yn ôl yr Annales Cambriae, bu farw o'r pla yn 682. Mae rhai ffynonellau'n awgrymu iddo farw mewn pla cynharach yn 663/664, ond ymddengys hyn yn llai tebygol.

Traddodiadau amdano[golygu]

Mae traddodiad a geir yn y casgliad Trioedd Ynys Prydain yn rhestru 'Tair Gwyth Balfawd Ynys Prydain' (Tri thrawiad niweidiol...'), a'r drydedd yw'r un a roddodd Golyddan Fardd i Gadwaladr Fendigaid. Does dim cyfeiriad at ei ladd gan Golyddan yn y croniclau. Ceir cyfeiriad arall gan y bardd Philyp Brydydd at ladd Gadwaladr gan Golyddan.[1]

Parhaodd y côf am Cadwaladr yn y Brudiau fel Mab Darogan. Yn Armes Prydein darogenir y bydd Cynan a Chadwaladr yn arwain y Cymry a'u cyngheiriad i fuddugoliaeth yn erbyn y Saeson. Cysylltir baner y Ddraig Goch ag ef, a defnyddiwyd y ddraig goch fel arwydd Harri Tudur ym Mrwydr Bosworth. gan fod Harri yn hawlio bod yn ddisgynnydd Cadwaladr.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Trioedd Ynys Prydein, Triawd 53 a thud. 292.