Llanymynech

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr yw Llanymynech, tua hanner y ffordd rhwng Croesoswallt a'r Trallwng, ger glan Afon Efyrnwy. Saif hanner gorllewinol y pentref yng nghymuned Carreghwfa ym Mhowys, tra mae'r hanner dwyreiniol yn Swydd Amwythig.

Pan oedd yr hen Sir Drefaldwyn yn cau'r tafarnau ar y Sul, roedd tafarn yn Llanymynech, y Lion, sydd yn awr wedi cau, lle roedd un bar, yng Nghymru, ar gau ar y Sul, a'r bar arall, yn Lloegr, ar agor. Yng Nghlwb Golff Llanymynech y dechreuodd Ian Woosnam chwarae golff. Roedd y peiriannydd diwydiannol Richard Roberts yn enedigol o'r pentref.

Saif Bryngaer Llanymynech tua tri-chwarter kilometr i'r Gogledd-Ddwyrain.

Cyfeiriadau[golygu]