Afon Efyrnwy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rhaeadrau Dolanog ar Afon Efyrnwy.
Afon Efyrnwy ger Llanymynech.

Afon yng ngogledd Powys yw Afon Efyrnwy (Saesneg: River Vyrnwy). Mae'n tarddu yn Llyn Efyrnwy, sy'n gronfa ddŵr erbyn heddiw, ac yn llifo ar draws Powys ar gwrs dwyreiniol i ymuno ag Afon Hafren yn Swydd Amwythig ger Melverley.

Mae Llyn Efyrnwy yn casglu dŵr o sawl ffrwd ar lethrau dwyreiniol Y Berwyn. Mae Afon Efyrnwy yn llifo o'r gronfa heibio i bentref Llanwddyn. Ar ôl milltir mae dwy ffrwd yn ymuno â hi o'r dwyrain yn Abertridwr. Mae'r afon yn llifo yn ei blaen i'r de-ddwyrain heibio i bentrefi bychain Pont Llogel, Dolanog a Phontrobert.

Daw Afon Banwy i lawr o fryniau gogledd-orllewin Powys i ymuno ag Afon Efyrnwy tua 3 milltir i'r gogledd o bentref Llanfair Caereinion. Yno ceir safle Mathrafal, prif lys brenhinoedd teyrnas Powys hyd ddechrau'r 13eg ganrif. Mae'r A495 yn croesi'r afon yno yn y Bont Newydd.

Mae Afon Efyrnwy yn newid cwrs i'r gogledd-ddwyrain ac yn llifo heibio i bentref Meifod yn Nyffryn Meifod. Ger Llansantffraid-ym-Mechain mae Afon Cain yn llifo iddi. Am rai milltiroedd mae Afon Efyrnwy yn nodi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr, yn mynd heibo i Lanymynech, ac yno'n croesi i Swydd Henffordd am hanner milltir olaf ei thaith i ymuno ag Afon Hafren ger Melverley.

CymruPowys.png Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.