Richard Roberts (peiriannydd)

Oddi ar Wicipedia
Richard Roberts
Ganwyd22 Ebrill 1789 Edit this on Wikidata
Llanymynech Edit this on Wikidata
Bu farw11 Mawrth 1864 Edit this on Wikidata
Adelphi Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethpeiriannydd, dyfeisiwr Edit this on Wikidata

Peiriannydd a dyfeisiwr peiriannau nyddu, gwehyddu a locomotifau oedd Richard Roberts (22 Ebrill 178911 Mawrth 1864) a anwyd yn Llanymynech, Trefaldwyn (Powys heddiw). Datblygodd ddulliau o otomeiddio peiriannau nyddu a gwehyddu a oedd ymysg y cyntaf o systemau masgynhyrchu.

Y dyddiau cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Richard yn Llanymynech, ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, yn fab i grudd o'r enw William Roberts a oedd hefyd yn gyfrifol am dollborth Newbridge. Offeiriad lleol a'i addysgodd a chafodd waith ar un o gychod Camlas Ellsmere. Aeth yn ei flaen i weithio mewn chwarel galch lle cafodd ei hyfforddi gan Robert Bough, syrfewr a oedd yn gweithio i Thomas Telford i gynllunio a dylunio.

Llwyddiannau[golygu | golygu cod]

Ei ddyfais bwysicaf, a gofrestrodd yn 1825, oedd y The self-acting (automatic)spinning mule.

Cynllun 1835 o'i brif ddyfais: "y mul troellog".

Disgrifiwyd ef fel y peiriannydd pwysicaf o wledydd Prydain yn y 19g. Yn ôl ei fywgraffydd Richard Leslie Hills, ei brif gyfraniad oedd cyflwyno peiriannau manwl iawn; heb y rhain ni fyddai'n boisib i systemau otomatig a masgynhyrchu fod wedi digwydd a byddai'r hyn a elwir heddiw yn production engineering ddim yn bodoli.[1] Roedd, felly, allweddol i'r Chwyldro Diwydiannol ond oherwydd ei fethiant fel dyn busnes bu farw'n dlawd ym mreichiau ei ferch ac fe'i claddwyd ym mynwent Kensall Green yn Llundain yn 75 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Hills 2002, t. 228