Llanddewi Ystradenni

Oddi ar Wicipedia
Llanddewi Ystradenni
Mathcymuned, pentrefan Edit this on Wikidata
Poblogaeth310 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,500.49 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.308056°N 3.308048°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000291 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJames Evans (Ceidwadwyr)
AS/auFay Jones (Ceidwadwyr)
Map
Gweler hefyd Llanddewi.

Pentref bychan a chymuned yng nghanolbarth Powys, Cymru, yw Llanddewi Ystradenni[1] (Saesneg: Llanddewi Ystradenny). Saif ar lan ddwyreiniol Afon Ieithon ar ffordd yr A483, tua 7 milltir i'r gogledd o dref Llandrindod.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan James Evans (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Fay Jones (Ceidwadwyr).[3]

Eglwys Dewi Sant, Llanddewi

Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o gwmwd Buddugre, yng nghantref Maelienydd; codwyd Castell Buddugre yno yn y 12g. Dros y cwm i'r gorllewin ceir adfeilion Abaty Cwm Hir, lle claddwyd corff Llywelyn ap Gruffudd ar ôl iddo gael ei ladd ger Buallt yn Rhagfyr 1282.

Saif Eglwys Dewi Sant neu "Landdewi" o fewn mynwent sydd bron yn grwn yng nghanol y pentref, ger Neuadd Llanddewi. Mae'r adeilad presennol, sy'n adeilad cofrestredig Gradd II, yn dyddio i 1890, ond ceir yma rhai rhanau o'r hen eglwys a fu yma cyn hynny.[4]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanddewi Ystradenni (pob oed) (310)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanddewi Ystradenni) (27)
  
9.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanddewi Ystradenni) (152)
  
49%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanddewi Ystradenni) (39)
  
31.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. www.britishlistedbuildings.co.uk; adalwyd 2015
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.