Llanarmon Mynydd Mawr

Oddi ar Wicipedia
Llanarmon Mynydd Mawr
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.842°N 3.285°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRussell George (Ceidwadwyr)
AS/auCraig Williams (Ceidwadwr)
Map

Pentrefan a phlwyf eglwysig gwledig yng nghymuned Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys, Cymru, yw Llanarmon Mynydd Mawr[1] (weithiau Llanarmon Mynydd-Mawr mewn ffynonellau Saesneg).[2] Saif yn ardal Maldwyn rhwng pentref Llanrhaeadr-ym-Mochnant a Llansilin fel ynys o dir rhyngddynt. Bu gynt yn rhan o Glwyd ac yn Sir Ddinbych cyn hynny. Yn yr Oesoed Canol roedd yn rhan o gantref Mochnant.

Mae Llanarmon yn un o sawl llan yng Nghymru a gysylltir â Sant Garmon.

Daw'r enw o fryn 534 medr Mynydd Mawr, yng nghanol y plwyf. Llifa afon Iwrch heibio i'r gorllewin o'r Mynyddd Mawr ar ei ffordd i lawr o Gwm Maen Gwynedd i afon Tanat. Rhed yr hen lôn rhwng pentref Llanrhaeadr-ym-Mochnant, i'r de, a Llanarmon Dyffryn Ceiriog, i'r gogledd, ar hyd ochr ddwyreiniol y plwyf ac yma y ceir y rhan fwyaf o'r preswylfeydd gwasgaredig ac eglwys y plwyf.

Hanes[golygu | golygu cod]

Apwyntiwyd yr Esgob William Morgan, cyfieithydd y Beibl i'r Gymraeg, yn ficer Llanarmon Mynydd Mawr a phlwyf cyfagos Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn 1578. Arosodd yn y swydd tan 1595 pan gafodd ei apwyntio'n Esgob Llandaf.

Cynrychiolaeth etholaethol[golygu | golygu cod]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 29 Rhagfyr 2021
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU

Dolen allanol[golygu | golygu cod]