Dylife

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ceunant Dylife.
Olion hen waith plwm yn Nylife.

Pentref bychan yn ardal Maldwyn, Powys yw Dylife. Fe'i lleolir yn uchel ar lethrau gogledd-orllewinol Pumlumon ar lôn wledig sy'n dringo o bentref Penegoes, ger Machynlleth ac un filltir i'r gorllewin o'r B4518 Llanidloes - Llanbrynmair. Mae'n rhan o blwyf eglwysig Penegoes.[1]

Mae tarddle Afon Twymyn ger Dylife. Llifa'r afon trwy geunant yma. Ceir sawl llyn gerllaw, yn cynnwys Glaslyn a Bugeilyn. Mae'n ardal eithaf glwyb ac anghysbell. Gorwedd tarddle Afon Hafren dros y gwaundir tua 3 milltir i'r de.

Yn y bryniau o gwmpas mae pobl wedi mwyngloddio am blwm ers canrifoedd lawer. Credir bod y Rhufeiniaid yn weithgar yma. Yn y 18fed ganrif datblygodd pentref mwyngloddio pur sylweddol yn Nylife. Bu'n ganolfan ddiwydiannol leol yn y 19eg ganrif. Un o'r rhai a ddenwyd yno i weithio yn ei ieuenctid oedd yr hanesydd llenyddiaeth Charles Ashton. Erbyn hyn dim ond llond llaw o dai a geir yno.

Heddiw mae Dylife yn atyniad i'r rhai sy'n ymddiddori mewn hanes mwyngloddio yng Nghymru. Mae Mwynglawdd Dylife yn ardal gadwriaethol. Mae Llwybr Glyndŵr yn mynd trwyddo.

Datguddwyd cofeb gerllaw ym 1990, ar gyfer darlledydd y BBC, Lewis John Wynford Vaughan-Thomas CBE, a adeiladwyd wedi ei farwolaeth ym 1987.[2]

Cyfeiriadau[golygu]