Llwybr Glyndŵr

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llwybr Glyndŵr ger Llyn Clywedog.

Llwybr cerdded ym Mhowys yw Llwybr Glyndŵr. Fe'i enwir ar ôl y tywysog Owain Glyndŵr ac mae'n dilyn llwybr sy'n ymweld â llefydd a gysylltir a Glyndŵr a hanes ei wrthryfel. Gyda Llwybr Arfordirol Ynys Môn a Llwybr Arfordir Penfro, mae'n un o dri Llwybr Cenedlaethol yng Nghymru.

Mae'r llwybr yn cychwyn yn Nhref-y-clawdd (Knighton), ar y ffîn â Lloegr, lle mae'n cysylltu â Llwybr Clawdd Offa. Yna mae'n rhedeg ar gylch tro pedol trwy ganolbarth Cymru gan fynd trwy nifer o drefi bach a phentrefi a safleodd hanesyddol fel Abaty Cwm Hir. Ar ôl croesi Pumlumon ac ymweld â safle Brwydr Hyddgen mae'n cyrraedd Machynlleth ar Afon Dyfi ac yna'n gychwyn yn ôl i'r dwyrain i orffen yn Y Trallwng.

CymruPowys.png Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.