Llanddewi yn Hwytyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Golygfa ar Llanddewi yn Hwtyn a'r cylch.

Pentref a chymuned ym Mhowys, yw Llanddewi yn Hwytyn (Saesneg: Whitton). Saif ger cyffordd y ffyrdd B4357 a B4356, ychydid i'r de o Drefyclawdd.

Ychydig i'r gorllewin mae Pilalau neu Pyllalai (Pilleth yn Saesneg), lle enillodd Owain Glyndŵr fuddugoliaeth ym Mrwydr Bryn Glas. Yn 1870 cafwyd hyd i bentyrrau o esgyrn ger eglwys Llanddewi yn Hwytyn; credir mai gweddillion milwyr a laddwyd yn y frwydr oeddynt. Ychydig i'r dwyrain o'r pentref mae Clawdd Offa.

Heblaw pentref Llanddewi yn Hwytyn ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Disgoed, Casgob a Pilalau. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 310.

Cyfrifiad 2011 [golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanddewi yn Hwytyn (pob oed) (348)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanddewi yn Hwytyn) (28)
  
8.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanddewi yn Hwytyn) (117)
  
33.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sy'n ddiwaith (Llanddewi yn Hwytyn) (45)
  
30.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Cyfeiriadau [golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: