Y Drenewydd

Oddi ar Wicipedia
y Drenewydd
Stryd Fawr lydan, Y Drenewydd
Mathtref Edit this on Wikidata
Poblogaeth11,357 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
GerllawAfon Hafren Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.5132°N 3.3141°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO115915 Edit this on Wikidata
Cod postSY16 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRussell George (Ceidwadwyr)
AS/auCraig Williams (Ceidwadwr)
Map
Mae "Drenewydd" yn ailgyfeiriad i'r dudalen hon. Gweler hefyd Drenewydd (gwahaniaethu).

Tref a chymuned ym Mhowys, Cymru, ydy'r Drenewydd (Saesneg: Newtown). Dyma dref fwyaf y sir. Saif ar lannau afon Hafren, ger y ffin â Lloegr. Mae'r dref yn enwog fel un o ganolfannau hanesyddol diwydiant gwlân Cymru ond fe'i hadnabyddir yn bennaf fel tref enedigol Robert Owen (ym 1771). Mae'r tŷ lle'i magwyd yn hanesyddol bwysig ac wedi'i droi'n amgueddfa. Yma hefyd mae Theatr Hafren ac Oriel Davies Gallery (yr enw swyddogol).[1]

Yn y Drenewydd roedd pencadlys cwmni Syr Pryce Pryce-Jones, y cwmni cyntaf yn y byd i werthu drwy'r post. Mae'n debyg y bu'r cwmni yn gwerthu dillad isaf i'r Frenhines Victoria, hefyd. Mae amgueddfa Syr Pryce-Jones yn y dref.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[3]

Eisteddfod Genedlaethol[golygu | golygu cod]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn y Drenewydd ym 1965. Am wybodaeth bellach gweler:

Enwogion[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]