Bronllys

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref a chymuned ym Mhowys, yw Bronllys, weithiau Brwynllys. Saif i'r gogledd-orllewin o dref Talgarth ac ychydig i'r de o Afon Gwy. Ar un adeg roedd yn ganolfan weinyddol Cantref Selyf. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 816.

Ceir castell mwnt a beili yma, sef Castell Bronllys, ac mae gan yr eglwys dŵr ar wahan. Adeiladwyd Ysbyty Bronllys fel ysbyty ar gyfer y dicïau. Bu'r bardd Bedo Brwynllys yn byw yma yn y 15fed ganrif.

Heblaw pentref Bronllys, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Pipton a Llys-wen. Yn Pipton yr arwyddwyd Cytundeb Pipton rhwng Llywelyn ap Gruffudd a Simon de Montfort yn 1265, cytundeb oedd yn cydnabod Llywelyn fel Tywysog Cymru. Yn ddiweddarach, roedd Pipton yn ganolfan cynhyrchu haearn, gwaith a ddechreuodd ddiwedd y 17eg ganrif.

Cysylltiad allanol [golygu]