Glan-miwl

Oddi ar Wicipedia
Glan-miwl
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.5°N 3.24°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO162904 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRussell George (Ceidwadwyr)
AS/auCraig Williams (Ceidwadwr)
Map

Pentref bychan yng nghymuned Ceri, Powys, Cymru, yw Glan-miwl[1] (Seisnigiad: Glanmule).[2] Fe'i lleolir yn ardal Maldwyn yng ngogledd y sir tua 2.5 milltir i'r dwyrain o'r Drenewydd. Saif ar groesffordd y ffordd B4368 a'r briffordd A489 tua 2 filltir o'r ffin â Lloegr (Swydd Amwythig).

Yn yr Oesoedd Canol roedd yr ardal yma yn rhan o gwmwd Ceri. Enwir y pentref am ei leoliad ar lan Afon Miwl, sy'n tarddu yn y bryniau i'r de, ger Dolfor, ac sy'n llifo i Afon Hafren yn Aber-miwl.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 5 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.