Cwm-twrch

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Cwm-twrch: y ffynnon sanctaidd.

Pentref bychan yn ardal Brycheiniog yw Cwm-twrch (hefyd Cwmtwrch).[1] Mae ffiniau tair sir yn cyffwrdd yma. Mae'r pentref yn gorwedd yn ne Powys yn bennaf ond mae rhannau o'r pentref yn gorwedd yn mwrdeistref sirol Castell-nedd Port Talbot a Sir Gaerfyrddin. Mae'n ymrannu yn Gwm-twrch Isaf a Chwm-twrch Uchaf.

Gorwedd y pentref yn rhan uchaf Cwm Tawe, tua 15 milltir i'r gogledd o ddinas Abertawe. Llifa Afon Twrch trwyddo ar ôl disgyn o lethrau'r Mynydd Du a'r Fforest Fawr.

Mae rhai yn credu fod ail elfen yr enw, 'twrch', yn cyfeirio at y Twrch Trwyth y mae Arthur yn hela trwy dde Cymru yn y chwedl ganoloesol Culhwch ac Olwen. Ond mae 'twrch' (baedd gwyllt) yn elfen bur gyffredin mewn enwau lleoedd.

Ceir ffynnon sanctaidd yn y pentref.

Cyfeiriadau[golygu]