Llanllwchaearn, Powys

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref bychan yn ardal Maldwyn, Powys yw Llanllwchaearn (hefyd: Llanllwchaiarn). Saif y pentref ym mhlwyf y Drenewydd a Llanllwchaearn ar lan Afon Hafren tua milltir i'r gogledd-ddwyrain o'r Drenewydd. Rhed lôn y B4568 trwyddo. Mae Camlas Trefaldwyn yn agos i'r pentref.

Tua dwy filltir a hanner i'r gogledd-dwyrain ceir safel Castell Dolforwyn.

O ddiwedd yr Oesoedd Canol hyd yr 17eg ganrif roedd teulu plas Aberbechan, sy'n gorwedd yn y plwyf, yn noddwyr pwysig i feirdd Maldwyn.

Ganed y dyn busnes arloesol Pryce Pryce-Jones yn Llanllwchaearn.


CymruPowys.png Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.