Sarn, Powys

Oddi ar Wicipedia
Sarn
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeri Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.51°N 3.17°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO204908 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRussell George (Ceidwadwyr)
AS/auCraig Williams (Ceidwadwr)
Map
Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Sarn (gwahaniaethu).

Pentref bychan yng nghymuned Ceri, Powys, Cymru, yw Sarn.[1][2] Fe'i lleolir yn ardal Maldwyn yng ngogledd y sir, tua 6 milltir i'r dwyrain o'r Drenewydd. Saif ar groesffordd wledig ar y briffordd A489 tua 2 filltir o'r ffin rhwng Cymru (Powys) a Lloegr (Swydd Amwythig). Mae'n un o sawl lle yng Nghymru a enwir "Sarn".

Yn yr Oesoedd Canol roedd yr ardal yma yn rhan o gwmwd Ceri. Enwir y pentref ar ôl sarn ar Afon Camlad, ffrwd sy'n tarddu yn y bryniau i'r de.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[4]

Tai du a gwyn ar gwr Sarn

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 9 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.