Derwen-las

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Derwen-las

Pentref bychan yn ardal Maldwyn, Powys yw Derwen-las[1] (hefyd Derwenlas). Fe'i lleolir ar y briffordd A487 tua 2 filltir i'r de-ddwyrain o dref Machynlleth, ar lan Afon Dyfi. Mae'n rhan o gymuned Cadfarch.

Yn y gorffennol bu Derwen-las yn borthladd ar gyfer Machynlleth. Yn 1859 agorwyd Tramffordd Corris, Machynlleth ac Afon Dyfi (Corris, Machynlleth and River Dovey Tramroad) i gludo llechi o chwareli Corris ac Aberllefenni i'r ceiau yn Nerwen-las, yn cynnwys Cei Ellis a Chei Tafarn Isa, lle cawsant eu llwytho ar longau arfordirol.

Cyfeiriadau [golygu]