Afon Dyfi
Oddi ar Wicipedia
Un o afonydd gorllewin canolbarth Cymru yw Afon Dyfi. Mae'n tarddu yng Nghreiglyn Dyfi wrth droed Aran Fawddwy ac yn llifo i'r môr ger Aberdyfi.
Hanes a thraddodiadau[golygu]
Ger Machynlleth mae ffrwd afon Dulas yn aberu yn Afon Dyfi: credir mai hwn yw lleoliad yr Abercuawg enwog y cyfeirir at ganu'r cogau yno yn y gerdd 'Claf Abercuawg', sy'n rhan o gylch Canu Llywarch Hen.
Rhywle ar lan aber yr afon y cynhaliwyd Cynhadledd Aberdyfi yn 1216 a welodd Llywelyn Fawr yn derbyn gwrogaeth tywysogion ac arglwyddi'r de.
Hen bennill[golygu]
Mae un o'r Hen Benillion yn sôn am Afon Dyfi:
- Blewyn glas ar afon Dyfi
- A hudodd lawer buwch i foddi;
- Lodes wen a'm hudodd innau
- O'r uniawn ffordd i'w cheimion lwybrau.[1]
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ Hen Benillion, gol. T. H. Parry-Williams, rhif 418.