Aran Fawddwy
| Aran Fawddwy (Aran Fawddwy) |
|
|---|---|
| Cyfieithiad | |
| Iaith | Cymraeg |
| Testun y llun | Aran Fawddwy (ar y chwith) a Chreiglyn Dyfi |
| Uchder (m) | 905 |
| Uchder (tr) | 2969 |
| Amlygrwydd (m) | 670 |
| Lleoliad | rhwng y Bala a'r Trallwng |
| Map topograffig | Landranger 124 125; Explorer 23E |
| Cyfesurynnau OS | SH862223 |
| Gwlad | Cymru |
| Dosbarthiad | Marilyn, Hewitt a Nuttall |
Mae Aran Fawddwy yn fynydd yn ne Parc Cenedlaethol Eryri yng Ngwynedd. Aran Fawddwy, 905 medr o uchder, yw'r mynydd uchaf yng Nghymru ac ar Ynys Prydain i'r de o'r Wyddfa. Aran Fawddwy yw'r copa uchaf ar y grib sy'n rhedeg tua'r de-orllewin o gyffiniau Llanuwchllyn tua Dolgellau, sydd hefyd yn cynnwys Aran Benllyn sydd fymryn yn is, ac yna'n parhau tua'r gorllewin fel Cadair Idris, gyda Bwlch Oerddrws yn gorwedd rhwng dwy ran y gadwyn; cyfeiriad grid SH862223. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 235metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Y pentrefi agosaf i'r mynydd yw Dinas Mawddwy i'r de, Llanymawddwy i'r de-ddwyrain, Rhydymain i'r gorllewin a Llanuwchllyn tua'r gogledd. Ar lechweddau dwyreiniol Aran Fawddwy mae llyn bychan Creiglyn Dyfi, lle mae Afon Dyfi yn tarddu. Daw'r enw o gwmwd Mawddwy, oedd yn cynnwys y wlad o gwmpas rhan uchaf Afon Dyfi.
Gellir dringo'r mynydd o'r de o Gwm Cywarch, sy'n rhedeg tua'r gogledd o Ddinas Mawddwy. Ffordd arall o gyrraedd y copa yw dringo Aran Benllyn o Lanuwchllyn, ac yna dilyn y grib.
Cynnwys |
Y Copa [golygu]
Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 905m (2969tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ddiwethaf ar 28 Ionawr 2004.
Gweler hefyd [golygu]
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr mynyddoedd Cymru
- Rhestr o Gopaon Cymru
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'