Sycharth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Yr olygfa o Lys Owain Glyndŵr yn Sycharth; gellir gweld baner y Ddraig Goch yn y pellter

Pentref bychan yw Sycharth, sydd wedi ei leoli yng nghymuned Llangedwyn ym Mhowys, 7 milltir i'r gorllewin o Groesoswallt. Mae'r pentref yn gorwedd yn nyffryn Afon Cynllaith, llednant o Afon Tanat.

Gwelir olion llys Owain Glyndŵr i'r gogledd o'r pentref.[1] Anfarwolwyd y lle gan gywydd[2] enwog Iolo Goch sy'n cynnwys y llinellau:

Anfynych iawn fu yno
weled na chlicied na chlo,
na phorthoriaeth ni wnaeth neb,
ni bydd eisiau budd oseb,
na gwall, na newyn, na gwarth,
na syched fyth yn Sycharth.

Roedd ganddo hefyd gastell tebyg yng Nglyndyfrdwy ger Corwen.

Delweddau [golygu]

Cyfeiriadau [golygu]


CymruPowys.png Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato