Glyndyfrdwy
Pentref yn Sir Ddinbych yw Glyndyfrdwy; yn flaenorol yn yr hen Sir Feirionnydd. Saif ar y briffordd A5, hanner ffordd rhwng Corwen a Llangollen, ger Afon Dyfrdwy.
Mae'r pentref yn enwog am ei gysylltiad ag Owain Glyndŵr, Arglwydd Glyndyfrdwy. Yn ei blastŷ yma y cyhoeddodd Owain ei hun yn Dywysog Cymru ar 16 Medi 1400. Dinistriwyd y tŷ gan fyddin Seisnig dan y tywysog Harri, yn ddiweddarach Harri V yn 1403, a dim ond olion y mwnt a'r sylfeini sydd i'w gweld heddiw. Gerllaw mae olion castell mwnt a beili o'r 12fed ganrif.
Yn Neuadd Goffa Owain Glyndŵr, gellir gweld copi o Lythyr Pennal a llythyr yn cadarnhau apwyntiad Canghellor Owain, Gruffydd Yonge, a brawd-yng-nghyfraith Owain, John Hanmer, fel llysgenhadon i frenin Ffrainc.
Crewyd plwyf Glyndyfrdwy yn 1866; cyn hynny roedd yn rhan o blwyf Corwen. Agorwyd gorsaf reilffordd yma yn 1866. Caewyd hi yn y 1960au, ond ail-agorwyd hi fel gorsaf ar Reilffordd Llangollen yn 1992.
Roedd R. J. Berwyn, un o arloeswyr Y Wladfa, yn enedigol o Lynceiriog.
Aberchwiler · Betws Gwerful Goch · Bodelwyddan · Bodfari · Bontuchel · Bryn Saith Marchog · Bryneglwys · Carrog · Cefn Meiriadog · Clocaenog · Corwen · Cwm · Cyffylliog · Cynwyd · Derwen · Dinbych · Diserth · Y Ddwyryd · Efenechtyd · Eryrys · Four Crosses · Gallt Melyd · Gellifor · Glyndyfrdwy · Graeanrhyd · Graigfechan · Gwyddelwern · Henllan · Loggerheads · Llanarmon-yn-Iâl · Llanbedr Dyffryn Clwyd · Llandegla · Llandrillo · Llandyrnog · Llandysilio-yn-Iâl · Llanelidan · Llanelwy · Llanfair Dyffryn Clwyd · Llanferres · Llanfwrog · Llangollen · Llangwyfan · Llangynhafal · Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch · Llanynys · Maeshafn · Melin y Wig · Nantglyn · Pandy'r Capel · Pentrecelyn · Pentre Dŵr · Prestatyn · Prion · Rhewl (1) · Rhewl (2) · Rhuallt · Rhuddlan · Rhuthun · Y Rhyl · Saron · Sodom · Tafarn-y-Gelyn · Trefnant · Tremeirchion