Loggerheads
Pentref bychan yn Sir Ddinbych yw Loggerheads (ni cheir enw Cymraeg).[1] Fe'i lleolir ger y ffin rhwng Sir Ddinbych a Sir y Fflint, tua 4 milltir i'r gorllewin o'r Wyddgrug ger Gwernymynydd, wrth droed llethrau dwyreiniol Bryniau Clwyd.
Llifa Afon Alun, un o lednentydd Afon Dyfrdwy, trwy Loggerheads. Dim ond ychydig o dai a thafarn sydd yno.
Nodir y ffin rhwng siroedd Dinbych a'r Fflint gan Garreg Carn March Arthur. Yn ôl y chwedl, gadawodd march y Brenin Arthur ôl ei garn arni pan neidiodd i lawr o ben Moel Famau. Saif y garreg ar ymyl y briffordd A494, wedi'i chysgodi dan fwa. Gosodwyd plac Saesneg yno yn esbonio ei harwyddocad yn 1763. Bu gan y dafarn leol arwydd ar un adeg yn dangos dau ddyn yn ysgyrnygu ar ei gilydd dan y geiriau "We Three Loggerheads": y gwyliwr oedd y trydydd "loggerhead".
Ceir Parc Gwledig Loggerheads ger y pentref.
Cyfeiriadau [golygu]
Aberchwiler · Betws Gwerful Goch · Bodelwyddan · Bodfari · Bontuchel · Bryn Saith Marchog · Bryneglwys · Carrog · Cefn Meiriadog · Clocaenog · Corwen · Cwm · Cyffylliog · Cynwyd · Derwen · Dinbych · Diserth · Y Ddwyryd · Efenechtyd · Eryrys · Four Crosses · Gallt Melyd · Gellifor · Glyndyfrdwy · Graeanrhyd · Graigfechan · Gwyddelwern · Henllan · Loggerheads · Llanarmon-yn-Iâl · Llanbedr Dyffryn Clwyd · Llandegla · Llandrillo · Llandyrnog · Llandysilio-yn-Iâl · Llanelidan · Llanelwy · Llanfair Dyffryn Clwyd · Llanferres · Llanfwrog · Llangollen · Llangwyfan · Llangynhafal · Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch · Llanynys · Maeshafn · Melin y Wig · Nantglyn · Pandy'r Capel · Pentrecelyn · Pentre Dŵr · Prestatyn · Prion · Rhewl (1) · Rhewl (2) · Rhuallt · Rhuddlan · Rhuthun · Y Rhyl · Saron · Sodom · Tafarn-y-Gelyn · Trefnant · Tremeirchion