Llanarmon-yn-Iâl
Cyfesurynnau: 53°05′47″N 3°12′41″W / 53.0965°N 3.2114°W
| Llanarmon-yn-Iâl | |
| Saesneg: Llanarmon-yn-Iâl | |
Mwnt Tomen-y-Faerdre, tu allan i'r pentref |
|
|
|
|
| Poblogaeth | 1,069 (Cyfrifiad 2001, yn cynnwys Eryrys a Graeanrhyd) |
|---|---|
| Cyfeirnod grid yr AO | SJ1856 |
| Cymuned | Llanarmon-yn-Iâl |
| Prif ardal | Sir Ddinbych |
| Sir seremonïol | Clwyd |
| Gwlad | Cymru |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Tref bost | YR WYDDGRUG |
| Rhanbarth cod post | CH7 |
| Cod deialu | 01824 |
| Yr Heddlu | Gogledd Cymru |
| Tân | Gogledd Cymru |
| Ambiwlans | Cymru |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Cymru |
| Senedd y DU | De Clwyd |
| Cynulliad Cymru | De Clwyd |
| Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Sir Ddinbych | |
Pentref a chymuned yn Sir Ddinbych yw Llanarmon-yn-Iâl (Llanarmon ar lafar yn lleol). Saif ar y ffordd B5431, gerllaw'r gyffordd a'r B5430, i'r dwyrain o dref Rhuthun a chwe milltir i'r de o'r Wyddgrug. Llifa Afon Alun heibio'r pentref, ac mae Llwybr Clawdd Offa rhyw filltir a hanner i'r gorllewin.
Cysegrwyd yr eglwys, sy'n dyddio o'r 14eg ganrif, i Sant Garmon; dyma ganolfan eglwysig draddodiadol cwmwd Iâl, yn nheyrnas Powys (Powys Fadog). Ar gwr y pentref ceir Tomen y Faerdre, amddiffynfa o'r 12fed ganrif.
Mewn ogof yma ceir un o'r ychydig olion yng Nghymru sy'n dyddio yn ôl tua 10,000 o flynyddoedd i'r cyfnod Mesolithig (sef Oes Ganol y Cerrig).
Brodor o Lanarmon oedd y llenor a cherddor Robert Bryan (1858 – 1920).
Aberchwiler · Betws Gwerful Goch · Bodelwyddan · Bodfari · Bontuchel · Bryn Saith Marchog · Bryneglwys · Carrog · Cefn Meiriadog · Clocaenog · Corwen · Cwm · Cyffylliog · Cynwyd · Derwen · Dinbych · Diserth · Y Ddwyryd · Efenechtyd · Eryrys · Four Crosses · Gallt Melyd · Gellifor · Glyndyfrdwy · Graeanrhyd · Graigfechan · Gwyddelwern · Henllan · Loggerheads · Llanarmon-yn-Iâl · Llanbedr Dyffryn Clwyd · Llandegla · Llandrillo · Llandyrnog · Llandysilio-yn-Iâl · Llanelidan · Llanelwy · Llanfair Dyffryn Clwyd · Llanferres · Llanfwrog · Llangollen · Llangwyfan · Llangynhafal · Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch · Llanynys · Maeshafn · Melin y Wig · Nantglyn · Pandy'r Capel · Pentrecelyn · Pentre Dŵr · Prestatyn · Prion · Rhewl (1) · Rhewl (2) · Rhuallt · Rhuddlan · Rhuthun · Y Rhyl · Saron · Sodom · Tafarn-y-Gelyn · Trefnant · Tremeirchion