Robert Bryan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Bardd Cymraeg, llenor a cherddor o blwyf Llanarmon-yn-Iâl, Sir Ddinbych oedd Robert Bryan (18581920). Roedd yn frawd i J. D. Bryan, awdur llyfr taith bychan am yr Aifft.

Cafodd Bryan ei addysg golegol yn y Coleg Normal, Bangor, Coleg Prifysgol Gogledd Cymru a Rhydychen.

Cyhoedodd ddwy gyfrol o gerddi: Odlau Cân, casgiad o delynegion, a Tua'r Wawr, a gyhoeddwyd ar ôl ei farw. Ysgrifennodd nifer o erthyglau ar bynciau amrywiol i gylchgronau O. M. Edwards, yn enwedig Y Llenor.

Roedd yn gyfansoddwr dawnus a gyfansoddodd nifer o ddarnau cerddorol. Golygodd ddau ddetholiad o ganeuon dan y teitl Alawon y Celt.

Llyfryddiaeth [golygu]

Cerddi [golygu]

  • Odlau Cân (Llanuwchllyn, 1901)
  • Tua'r Wawr (1921)

Cerddoriaeth [golygu]

Fel golygydd:

  • Alawon y Celt (dwy gyfrol)
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.