John Parry (Rhyfel y Degwm)

Oddi ar Wicipedia
John Parry
Ganwyd24 Gorffennaf 1835 Edit this on Wikidata
Llanarmon-yn-Iâl Edit this on Wikidata
Bu farw3 Mehefin 1897 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwaith y saer, bugail, bardd, ysgrifennwr, gwerthwr tai Edit this on Wikidata
Blodeuodd1886 Edit this on Wikidata

John Parry (24 Gorffennaf 1835 - 3 Mehefin 1897) oedd arweinydd Rhyfel y Degwm o 1886 ymlaen. Roedd yn aelod o gyngor sir cyntaf Sir Ddinbych. Dywedir ei fod yn areithiwr huawdl ac arweinydd doeth, ac anerchodd lawer o gyfarfodydd yng Nghymru a Lloegr ar y degwm. Bu farw 3 Mehefin 1897.[1]

Torriad papur newydd (LlGC) yn nodi y bydd John Parry yn ymddangos o flaen y llys sirol (Sir Ddinbych) gan iddo beidio a thalu 7s 11c o ddegwm i'r eglwys.

Ganed John Parry ar 24 Gorffennaf yn Llanarmon-yn-Iâl, Sir Ddinbych, yn fab i'r Parch. Hugh Parry. Roedd yn saer coed, bugail, goruchwyliwr stad, llenor, a bardd, a chanddo lyfrgell gyfoethog ac amrywiol iawn a gedwir heddiw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ysgrifennodd atodiad i Hanes y Merthyron (Thomas Jones, Dinbych), ysgrif ar Helynt y Degwm (Y Traethodydd, 1887), ayb.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; Cymdeithas y Cymrodorion; gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Awdur: David Thomas, O.B.E., M.A., (1880-1967), Bangor. Cyhoeddwyd: 1953-54.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]