Y Faner

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Baner ac Amserau Cymru)
Neidio i: llywio, chwilio

Papur newydd rhyddfrydol Cymraeg arloesol a gyhoeddid yn Ninbych oedd Y Faner a'i sefydlwyd yn 1843 gan Thomas Gee. Cyfunwyd y papur gyda Amserau Cymru yn 1859 gan y cyhoeddwyr, Gwasg Gee, i greu Baner ac Amserau Cymru. Cyhoeddwyd Y Faner hyd 1 Ebrill 1992,[1] cyn dyfodiad Y Faner Newydd tua 1997

Apwyntiwyd y llenor amryddawn T. Gwynn Jones yn is-olygydd Baner ac Amserau Cymru yn 1890. Gweithiodd William Thomas (Islwyn) a Gwilym R. Jones ar y papur am gyfnod. Bu Hafina Clwyd hefyd yn is-olygydd a golygydd Y Faner.[2] Cyhoeddwyd gwaith Owain Owain yn y papur hefyd.

Ffynonellau[golygu]

  1. Newsplan Cymru
  2. BBC
Newspaper.svg Eginyn erthygl sydd uchod am bapur newydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Flag of Wales 2.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato