Gwaith y saer

Oddi ar Wicipedia
Gweler hefyd Saer (gwahaniaethu)
Dau saer o Gorwen gyda'u hoffer trin pren.

Crefftwr sy'n trin pren yw'r saer neu saer coed er mwyn codi tŷ, gwneud celfi o bren ayb. Caiff ei gydnabod fel crefftwr ac mae dyn wedi bod yn gwneud gwaith coed ers miloedd o flynyddoedd.

Ceir sawl cyfeiriad at seiri coed yn y Beibl, gan gynnwys Noa a Joseff, tad Iesu o Nasareth a adwaenid ar adegau fel "Mab y Saer".

Yn yr Almaen, Japan a Chanada ceir safonau llym i sicrhau'r gwaith gorau posibl. Yn Unol Daleithiau America ar y llaw arall, nid oes angen unrhyw fath o gymhwyster i wneud y gwaith ac mae 98.5% o seiri yn ddynion. [angen ffynhonnell]

Saer o Landysul tua 1885.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]