Cynwyd
Oddi ar Wicipedia
- Erthygl am y pentref yw hon. Am y sant gweler Cynwyd (sant).
Pentref yn Sir Ddinbych yw Cynwyd, gynt yn yr hen Sir Feirionnydd. Saif ar y ffordd B4401, tua dwy filltir i'r de-ddwyrain o dref Corwen, lle mae Afon Trystion ym ymuno ag Afon Dyfrdwy.
Ceir yma ddwy dafarn, y Prince of Wales a'r Blue Lion, a hostel ieuenctid. Mae gan Ifor Williams Trailers ffatri fawr yma. Gerllaw mae coedwig gonifferaidd Coed Cynwyd.
Gorwedd y pentref yn Nyffryn Edeirnion, wrth droed Y Berwyn.
Saif Eglwys Llangar rhwng Cynwyd a Chorwen.
[golygu] Enwogion
- William Jones (emynydd) (1764-1822). Ganed yng Nghynwyd ond treuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn Y Bala.
- Robin Llwyd ab Owain. Prifardd. Ganwyd yn "Croeso" ger yr ysgol yn 1958.
[golygu] Delweddau
Aberchwiler · Betws Gwerful Goch · Bodelwyddan · Bodfari · Bontuchel · Bryn Saith Marchog · Bryneglwys · Carrog · Cefn Meiriadog · Corwen · Cwm · Cyffylliog · Cynwyd · Derwen · Dinbych · Diserth · Y Ddwyryd · Efenechtyd · Eryrys · Gallt Melyd · Glyndyfrdwy · Gwyddelwern · Henllan · Llanarmon-yn-Iâl · Llanbedr Dyffryn Clwyd · Llandegla-yn-Iâl · Llandrillo · Llandyrnog · Llanelidan · Llanelwy · Llanfair Dyffryn Clwyd · Llanferres · Llangollen · Llangwyfan · Llangynhafal · Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch · Llanynys · Melin y Wig · Nantglyn · Pandy'r Capel · Prestatyn · Prion · Rhewl · Rhuallt · Rhuddlan · Rhuthun · Y Rhyl · Saron · Sodom · Tafarn-y-Gelyn · Trefnant · Tremeirchion




