Cefn Meiriadog

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref bychan a chymuned yn Sir Ddinbych yw Cefn Meiriadog. Daw’r enw o enw’r bryn gerllaw. Saif yn nyffryn Afon Elwy, tua pum milltir i’r de-orllewin o dref Llanelwy, ac heb fod ymhell o Ogof Bontnewydd, lle cafwyd hyd i rai o’r gweddillion dynol hynaf yng Nghymru. Mae beddrod o’r cyfnod Neolithig gerllaw.

Dywedir i’r fan gael ei henwi ar ôl Meiriadog, sant o’r 5ed ganrif . Ceir ffynnon yno, Ffynnon Fair, y credid ar un adeg ei bod yn medru iachau. Bu’r bardd Siôn Tudur (1522 – 1602) yn byw ym Mhlas Wigfair gerllaw.

Eglwys y Santes Fair, Cefn[golygu]

Tua 300 metr i'r de-ddwyrain o'r gaer 'Bryn y Cawr' ar Fryn Meiriadog saif eglwys fechan y Santes Fair, sy wedi'i chofrestru yn adeilad Gradd II.[1] Cafodd y cerrig eu cloddio o dir y safle'r eglwys ac agorwyd a chysegrwyd yr eglwys ar 3 Medi 1864 gan yr Esgob Short, Llanelwy. Crëwyd y plwyf newydd "Cefn" ar 7 Chwefror 1865. Roedd yn cynnwys y ddwy drefgordd: Wigfair a Meiriadog (y ddwy yn Sir Ddinbych), a oedd tan hynny wedi bod ym mhlwyf Llanelwy.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Dewi Roberts The old villages of Denbighshire and Flintshire (Gwasg Carreg Gwalch. 1999) ISBN 0-86381-562-6

Cyfeiriadau[golygu]