Rhuthun

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 53°06′53″N 3°18′38″W / 53.1146°N 3.3106°W / 53.1146; -3.3106

Rhuthun
The Old Court House Ruthin Wales.jpg
Yr hen lys barn a godwyd yn 1401. Dyma'r adeilad cyntaf i'w losgi yng ngwrthryfel Owain Glyndŵr, 1401.d
Rhuthun is located in Sir Ddinbych
Rhuthun

Rhuthun Sir Ddinbych
Poblogaeth 5,218 (2001)
Cyfeirnod grid yr AO SJ127854
Cymuned Rhuthun
Sir Sir Ddinbych
Sir seremonïol Clwyd
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost RHUTHUN
Rhanbarth cod post LL15
Cod deialu 01824
Yr Heddlu Gogledd Cymru
Tân Gogledd Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Senedd y DU Gorllewin Clwyd
Cynulliad Cymru Gorllewin Clwyd
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Sir Ddinbych
Steve Beech, Maer ac Ann Roberts (dde), Dirprwy Faer Rhuthun wedi diwrnod o sganio hen ffotograffau yn Rhuthun; 2014.

Mae Rhuthun yn dref fach, oedd â phoblogaeth o 5,218 yn 2001 (47% gwryw, 53% benyw, oed cyfartaledd 43.0). Hi yw tref sirol Sir Ddinbych, ac fe'i lleolir ar lan Afon Clwyd yn ne Dyffryn Clwyd. Cyfeirnod OS: SJ 12417 58306. Mae'r A494 a'r A525 yn rhedeg drwyddi.

Mae gan y dref hen gastell, a adeiladwyd tuag 1280, ond cafodd ei ddymchwel ar ôl y Rhyfel Cartref, ac fe'i ail-adeiladwyd fel gwesty mawr yn y 19eg ganrif. Arferai fod yn brif dref Dogfeiling yn yr Oesoedd Canol Cynnar, a fu yn ddiweddarach yn un o ddau gwmwd a ffurfiai cantref Dyffryn Clwyd. Mae stryd yn y dref yn dal i gael ei galw'n "Dog Lane" (neu "Stryd Dogfael") ar ei ôl. Mae Maen Huail yn garreg o flaen Banc Barclays ac sy'n coffau torri pen brawd Gildas, yn ol y chwedl.

Mae Rhuthun wedi ei hefeillio â thref Brieg, Llydaw. Ceir dwy ysgol uwchradd: Ysgol Brynhyfryd a Ysgol Rhuthun (neu Ruthin School) sy'n ysgol breifat. Yr enw lleol ar yr ysgol breifat ydy "Ysgol y Capie Cochion".

Hanes[golygu]

Siop Rhonw, 1975: o gasgliad John Thomas (ffotograffydd), y Llyfrgell Genedlaethol.

Dafydd ap Gruffudd (1238 - 1283) a gododd y castell cyntaf i gael ei gofnodi ar y safle hwn, er bod tystiolaeth fod yma gastell cyn hyn. Cryfhawyd y castell yn helaeth gan Edward I o Loegr tua'r flwyddyn 1280. Enw gwreiddiol y Dref oedd 'Castell Coch yng Ngwern-fôr, oherwydd y tywodfaen coch yn waliau'r castell.

Ar 16 Medi, 1400, llosgodd Owain Glyndŵr dref Rhuthun yn ulw, heblaw'r castell. Mae plac yn nodi'r ffaith hon ar fanc y Nat West, yr adeilad o flaen yr un presenol a losgwyd gyntaf gan Owain. Ar y plac mae dyfyniad o waith y prifardd Robin Llwyd ab Owain: 'Yn dy galon di... Glyn Dŵr!' Ymunodd llawer o drigolion Rhuthun gydag Owain gan ymosod wedyn ar Ddinbych, Rhuddlan ac yna Fflint.

Gall y cyhoedd hefyd ymweld â'r Hen Garchar a adferwyd yn ddiweddar. Dyma'r carchar a enwogwyd yn y gerdd:

Mae Wil yng ngharchar Rhuthyn,
A'i wedd yn ddigon trist...

Yn ôl yr hanesydd Peter Smith, 'Tan y 18fed ganrif roedd y rhan fwyaf o drefi Cymru yn frith o dai du a gwyn (megis Tŷ Nantclwyd y Dre). Bellach, dim ond Rhuthun sydd ar ôl. Dylid ei gwarchod yn ofalus fel cofeb genedlaethol, fel yr atgof olaf sydd gennym...' [1]. Capel hynaf y dref yw Pendref.

Nantclwyd y Dre[golygu]

Prif erthygl: Nantclwyd y Dre.

Agorwyd drysau Tŷ Nantclwyd (neu Nantclwyd y Dre) i'r cyhoedd ar droad y mileniwm, adeilad hynod, sy'n dyddio nôl i oddeutu 1445. Hwn yw'r tŷ trefol ffrâm bren hynaf yng Nghymru.[2][3]

Canolfan Grefft[golygu]

Ceir Canolfan Grefftau yn Rhuthun, sy'n cael ei ariannu gan Gyngor Sir Ddinbych. Mae wedi ennill nifer o wobrau, yn enwedig am ei bensaerniaeth.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Rhuthun (pob oed) (5,461)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Rhuthun) (2,195)
  
41.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Rhuthun) (3702)
  
67.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Rhuthun) (886)
  
36.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Pobol sy'n gysylltiedig â Rhuthun[golygu]


Oriel[golygu]

Eisteddfod Genedlaethol[golygu]

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yn Rhuthun ym 1973. Am wybodaeth bellach gweler:

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Gwyddoniadur Cymru
  2. 'Nantclwyd y Dre' gan Christopher J. Williams a Dr. Charles Kightly; Cyhoeddwyd gan Gyngor Sir Ddinbych, Haf 2007
  3. Gweler adroddiad Richard Suggett (RCAHMW): the earliest dated timber-framed town house in Wales.
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Gweler hefyd[golygu]

Dolenni allanol[golygu]