A525
Oddi ar Wicipedia
Yr A525 yn croesi Afon Clwyd fel Ffordd osgoi Rhuddlan
Priffordd yng ngogledd-ddwyrain Cymru a rhan o Loegr yw'r A525. Mae'n cysylltu'r Rhyl a Newcastle-under-Lyme yn Lloegr.
O'r Rhyl, mae'n arwain tua'r de, ac yn troi'n ffordd osgoi ddeuol heibio Rhuddlan. Wedi croesi'r A55 ger Llanelwy, mae'n dilyn Afon Clwyd tua'r de, ychydig i'r gorllewin o'r afon. Ychydig i'r de o Rhuthun, mae'n troi tua'r dwyrain, ac yn mynd trwy Wrecsam cyn croesi'r ffîn i Loegr ychydir i'r gorllewin o'r Eglwys Wen (Whitchurch). Wedi cyd-redeg a'r A41 am ychydig ar hyd ffordd osgoi'r Eglwys Wen, mae'n ymwahanu ac yn arwain i'r dwyrain a'r gogledd-ddwyrain i groesi'r M6 a chyrraedd Newcastle-under-Lyme, lle mae'n ymuno a'r briffordd A34.
Trefi a phentrefi ar yr A525 [golygu]
- Rhyl
- Rhuddlan
- Llanelwy
- Trefnant
- Llanrhaeadr (ffordd osgoi)
- Rhewl
- Rhuthun
- Llanfair Dyffryn Clwyd
- Bwlchgwyn
- Coedpoeth
- Wrecsam
- Marchwiel
- Bangor-is-y-coed (ffordd osgoi)
- Yr Eglwys Wen (ffordd osgoi)
- Broughall
- Audlem
- Buerton
- Woore
- Madeley;
- Newcastle-under-Lyme