Bryneglwys

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Tysilio Sant, Bryneglwys.
Am y chwarel lechi ger Abergynolwyn, gweler Chwarel Bryn Eglwys.

Pentref, plwyf, a chymuned yn Sir Ddinbych yw Bryneglwys. Saif i'r gogledd-orllewin o dref Llangollen ac i'r gogledd-ddwyrain o Gorwen, ar y briffordd A5104.

Mae'r gymuned yn cynnwys copa Mynydd Llandysilio, i'r de o'r pentref, a Plas-yn-Iâl, cartref gwreiddiol teulu Yale. Ganed Elihu Yale yno, yr enwir Prifysgol Yale ar ei ôl. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 344.

Yn yr Oesoedd Canol roedd y plwyf yn rhan o gwmwd Iâl, yn nheyrnas Powys (Powys Fadog). Mae adeilad presennol eglwys y plwyf, sef Eglwys Tysilio Sant, yn dyddio o'r 15fed ganrif ond mae'n debyg fod y safle yn hŷn.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Bryneglwys (pob oed) (369)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Bryneglwys) (130)
  
36%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Bryneglwys) (187)
  
50.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Bryneglwys) (36)
  
24%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.