Bodelwyddan
Pentref bychan a chymuned yn Sir Ddinbych yw Bodelwyddan. Fe'i lleolir ar yr A55 hanner ffordd rhwng Abergele i'r gorllewin a Llanelwy i'r dwyrain. Saif Castell Bodelwyddan tua hanner cilometr o'r pentref. Mae'n gartref i Ysbyty Glan Clwyd, y prif ysbyty ar gyfer gogledd-ddwyrain Cymru. Mae'n fwyaf adnabyddus am Yr Eglwys Farmor (Eglwys Sant Marged), a godwyd ganol y 19eg ganrif mewn marmor gwyn trawiadol.
I'r gogledd o'r pentref ceir gwlybdir eang Morfa Rhuddlan, safle brwydr waedlyd rhwng y Cymry a rhyfelwyr Mercia yn 797.
Aberchwiler · Betws Gwerful Goch · Bodelwyddan · Bodfari · Bontuchel · Bryn Saith Marchog · Bryneglwys · Carrog · Cefn Meiriadog · Clocaenog · Corwen · Cwm · Cyffylliog · Cynwyd · Derwen · Dinbych · Diserth · Y Ddwyryd · Efenechtyd · Eryrys · Four Crosses · Gallt Melyd · Gellifor · Glyndyfrdwy · Graeanrhyd · Graigfechan · Gwyddelwern · Henllan · Loggerheads · Llanarmon-yn-Iâl · Llanbedr Dyffryn Clwyd · Llandegla-yn-Iâl · Llandrillo · Llandyrnog · Llandysilio-yn-Iâl · Llanelidan · Llanelwy · Llanfair Dyffryn Clwyd · Llanferres · Llanfwrog · Llangollen · Llangwyfan · Llangynhafal · Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch · Llanynys · Maeshafn · Melin y Wig · Nantglyn · Pandy'r Capel · Pentrecelyn · Pentre Dŵr · Prestatyn · Prion · Rhewl (1) · Rhewl (2) · Rhuallt · Rhuddlan · Rhuthun · Y Rhyl · Saron · Sodom · Tafarn-y-Gelyn · Trefnant · Tremeirchion