Morfa Rhuddlan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ffos ar ran o Forfa Rhuddlan

Morfa o dir isel gwlyb i'r gorllewin o dref Rhuddlan ger arfordir gogledd-ddwyrain Cymru yw Morfa Rhuddlan (cyfeiriad grid SH9778). Mae'r rhan fwyaf o'r morfa yn gorwedd yn sir Conwy heddiw gyda rhan yn Sir Ddinbych.

Mae'r trefi a phentrefi o gwmpas Morfa Rhuddlan yn cynnwys Abergele, Pensarn, Towyn, Bae Cinmel a Bodelwyddan. Gorwedd Afon Clwyd rhwng Morfa Rhuddlan a thref Rhuddlan ei hun. Llifa Afon Gele drwy'r morfa o gyfeiriad Abergele i ymuno ag Afon Clwyd i'r de o Fae Cinmel.

Brwydr Morfa Rhuddlan[golygu]

Mae Morfa Rhuddlan yn adnabyddus yn hanes Cymru fel safle Brwydr Morfa Rhuddlan yn y flwyddyn 796, rhwng gwŷr Gwynedd dan arweiniad y brenin Caradog ap Meirion a gwŷr Mercia dan arweiniad Offa. Fe'i cofnodir yn yr Annales Cambriae. Fe'i cofir hyd heddiw fel cyflafan fawr. Daeth yn destun sawl awdl eisteddfodol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a cheir tôn 'Morfa Rhuddlan'.

Llifogydd[golygu]

Yn fwy diweddar mae'r morfa wedi dod yn enwog am y llifogydd, yn enwedig yn Nhywyn yn yr 1990au pan orlifiodd y môr dros y morglawdd. Cafodd nifer o fyngalos eu codi ar ogledd y morfa yn negawdau olaf yr 20fed ganrif, a hynny er gwaethaf tystiolaeth yr enwau lleol am wlybder y tir, e.e. Ffarm y Gors, Glan-y-Gors.

Cyfeiriadau[golygu]