Betws Gwerful Goch

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Betws Gwerful Goch

Pentref bach gwledig a phlwyf yn Sir Ddinbych yw Betws Gwerful Goch (ffurf hynafiaethol: Bet[t]ws Gwerfil Goch). Roedd gynt yn rhan o Sir Feirionnydd (tan 1974) ac ar ôl hynny Clwyd (1974 - 1996). Roedd Betws Gwerful Goch yn rhan o hen arglwyddiaeth annibynnol Dinmael yn yr Oesoedd Canol. Fe'i lleolir rhwng Melin y Wig a Chorwen yn ne eithaf y sir. Rhed Afon Alwen heibio iddi.

[golygu] Yr eglwys a'r plwyf

Roedd Betws Gwerful Goch yn un o blwyfi hynafol cwmwd Edeirnion ym Merionnydd. Dywedid ei bod yn bosibl taflu carreg o lan yr eglwys i un o'r tair plwyf y mae ei ffiniau'n cwrdd yno, sef plwyfi Corwen, Llanfihangel Glyn Myfyr, a Gwyddelwern. Mae'r eglwys yn gysegredig i'r Santes Fair.

Ceir y cyfeiriad hanesyddol cyntaf at yr eglwys yn 1254, ond fel yn achos nifer o fannau eraill mae'n bosibl fod eglwys yno cyn hynny. Cafodd yr eglwys ei hatgyweirio'n sylweddol yn 1882 ond cedwir ynddi rhai o'r cerfiadau pren hynafol o'r hen eglwys.

Gwasanaethodd y llenor Edward Samuel, taid David Samwell (Dafydd Ddu Feddyg) fel rheithor y plwyf o 1702 hyd 1721, pan symudodd i blwyf Llangar.

[golygu] Gwerful

Roedd Gwerful yn ferch i Gynan (m. 1174) fab Owain Gwynedd, yn ôl rhai hen achau. Buasai yn ei blodau tua'r flwyddyn 1200 felly. Un o'i hewythrau oedd y bardd-dywysog enwog Hywel ab Owain Gwynedd. Cafodd ei chladdu yn Dinmael. Dyna'r cwbl sy'n hysbys amdani ond mae'r diweddar Athro Bedwyr Lewis Jones yn awgrymu iddi roi nawdd i godi capel anwes ('betws') yno a gafodd ei henwi'n Fetws Gwerful Goch wedyn (gw. Yn Ei Elfen (Llanrwst, 1992), tt. 18-19).

[golygu] Gweler hefyd


Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill