Abergele
Cyfesurynnau: 53°17′N 3°35′W / 53.28°N 3.58°W
| Abergele | |
Memorial to the 33 people killed in the Abergele rail disaster of 1868 |
|
|
|
|
| Poblogaeth | 10,016 (2001) |
|---|---|
| Cyfeirnod grid yr Arolwg Ordnans | SH945775 |
| Cymuned | Abergele |
| Prif ardal | Conwy |
| Sir seremonïol | Clwyd |
| Gwlad | Cymru |
| Gwladwriaeth sofran | Y Deyrnas Unedig |
| Tref bost | ABERGELE |
| Rhanbarth cod post | LL22 |
| Cod deialu | 01745 |
| Yr Heddlu | Gogledd Cymru |
| Tân | Gogledd Cymru |
| Ambiwlans | Cymru |
| Senedd yr Undeb Ewropeaidd | Cymru |
| Senedd y DU | Gorllewin Clwyd |
| Cynulliad Cymru | Gorllewin Clwyd |
| Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Conwy | |
Tref a chymuned yng Nghonwy (yn yr hen Sir Ddinbych cyn hynny), ar yr A55 rhwng Bae Colwyn a'r Rhyl, yw Abergele. Saif ar lannau Afon Gele. Mae'n dref farchnad a chanolfan siopa lleol. Mae gorsaf ar Reilffordd Arfordir Gogledd Cymru. I'r dwyrain o'r dref ceir gwlybdir eang Morfa Rhuddlan.
Cynnwys |
[golygu] Hanes
Er yn dref gymharol fodern mae gan Abergele hanes digon hir. Tyfodd o gwmpas yr hen eglwys. Bu damwain difrifol ar y rheilffordd yn 1868 pan darwyd yr Irish Mail gan dri wagen petrol oedd wedi rhedeg yn rhydd i lawr y trac; collodd 33 o bobl eu bywydau (mae eu beddau i'w gweld yn yr eglwys).
[golygu] Yr eglwys
Codwyd Eglwys Fihangel Sant yn y 15fed ganrif ar safle eglwys hŷn; cafodd ei hadnewyddu yn 1879. Mae'r bedyddfaen yn dwyn y dyddiad 1663. Yn rhan o'r llawr ger yr allor, mae hen garreg â chroes arni sy'n dyddio o'r 13eg ganrif; credir ei bod yn garreg fedd abad.
[golygu] Olion Cynhanes
Ceir dwy ogof paleolithig nepell o'r dref: Ogof Bontnewydd (Cyfeirnod OS: SJ01527102) a Chefn Ogo. Mae ogof Pontnewydd yn un o'r ddwy ogof bwysicaf yng ngwledydd Prydain o ran olion dyn a dyn Neanderthal; darganfuwyd dant dynol yma sydd oddeutu 220,000 o flynyddoedd oed. Cafwyd hyd i lawfwyeill Neanderthalaidd hefyd, ac esgyrn anifeiliaid gydag olion cigydda arnynt. 750 metr i'r de-ddwyrain, ar yr un ochr i'r afon mae Ogof Cefnmeiriadog neu Cefn Ogo gyda cheg yr ogof mor anferthol fel y'i galwyd unwaith gan William Davis yn ei lyfr 'hand-book for the Vale of Clwyd' fel one of the most spacious and magnificent caverns in Europe. Mae ceg yr ogof yn 50 troedfedd o uchter, gyda stalactites yn diferu o'r nenfwd mewnol.
Mae Parc y Meirch gerllaw.
Yr ochr de-orllewinol i'r dref safai Bryngaer Dinorben a ddinistriwyd yn llwyr gan y chwarel gyfagos ond ceir tystiolaeth fod pobl wedi byw yno'n ddi-baid o ddiwedd yr Oes Efydd hyd at y 7ed ganrif.[1]
[golygu] Enwogion
- Ganed Robert Ambrose Jones (Emrys ap Iwan) yn Abergele (24 Mawrth 1851). Enwir yr ysgol uwchradd Saesneg leol er ei anrhydedd yn Ysgol Emrys ap Iwan.
[golygu] Atyniadau eraill
- Castell Gawr - Bryn coediog 1m i'r de, safle camp Rufeinig.
- Castell Gwrych - Castell Gothig o'r 19eg ganrif.
- Moelfre Isaf - bryn deniadol, 2m i'r de, gyda golygfeydd braf.
- Pensarn - Pentref glan môr a chanolfan twristiaeth, milltir i'r gogledd o'r dref.
[golygu] Eisteddfod
Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Abergele ym 1995.
[golygu] Dolenni allanol
- (Saesneg) Tudalen dref arwefan BBC Cymru
- Camera traffig
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ Gwyddoniadur Cymru, golygydd John Davies, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 2008 tudalen 7
Abergele · Bae Cinmel · Bae Colwyn · Bae Penrhyn · Betws-y-Coed · Betws yn Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Conwy · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Cyffordd Llandudno · Dawn · Deganwy · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwysbach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Gwytherin · Gyffin · Hen Golwyn · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llandudno · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llaneilian-yn-Rhos · Llanfairfechan · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llanrwst · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Penmaenmawr · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarn-y-fedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd y Foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Tywyn · Ysbyty Ifan