Abergynolwyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Abergynolwyn

Pentref bychan yng Ngwynedd yw Abergynolwyn, gerllaw Afon Dysynni; Cyfeirnod OS: SH677069. Ar un adeg yr oedd diwydiant llechi pwysig yn yr ardal yma, a sefydlwyd y pentref yn y 1860au ar gyfer gweithwyr yn Chwarel Bryn Eglwys gerllaw yn Nant Gwernol. Heddiw ffermio a thwristiaeth yw’r prif ddiwydiannau. Cynhelir eisteddfod flynyddol yno.

Gerllaw’r pentref mae Rheilffordd Talyllyn, Llyn Mwyngil, Castell y Bere ger pentref cyfagos Llanfihangel-y-pennant a Chraig yr Aderyn lle mae bryngaer o Oes yr Haearn ac amrywiaeth o adar.

Tren yn Abergynolwyn tua 1885.

Enwogion[golygu]

  • Dafydd Richards (1829 - 1897), a ddaeth yn enwog fel cerflunydd yn UDA
  • Elwyn Roberts (1905-1988), Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf Plaid Cymru, hanesydd lleol

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Caradog Jones, Braslun o hanes pentref Abergynolwyn a chwareli Bryneglwys;; (Abergynolwyn : Pwyllgor Amgueddfa'r Pentref, 1983)
  • Elwyn Roberts, Wrth Odre Cadair Idris (Cyhoeddiadau Mei, 1989)

Dolenni allanol[golygu]


WalesGwynedd.png Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato