Neil Taylor (pêl-droediwr)
Taylor yn chwarae i Abertawe yn 2011 |
|||
| Gwybodaeth Bersonol | |||
|---|---|---|---|
| Enw llawn | Neil John Taylor[1] | ||
| Dyddiad geni | 7 Chwefror 1989 | ||
| Man geni | Llanelwy, Cymru | ||
| Taldra | 5 m (16 ft 5 in) | ||
| Safle chwarae | Amddiffynwr | ||
| Y Clwb | |||
| Clwb presennol | Abertawe | ||
| Rhif | 3 | ||
| Gyrfa fel Arddegwr | |||
| 1998–2004 | Manchester City | ||
| 2005–2007 | Wrecsam | ||
| Gyrfa fel Oedolyn* | |||
| Blwyddyn | Tîm | Ymddang'au† | (Gls)† |
| 2007–2010 | Wrecsam | 75 | (3) |
| 2010– | Abertawe | 66 | (0) |
| Tîm Cenedlaethol‡ | |||
| 2005–2006 | Tîm Dan 17 Cymru | 10 | (0) |
| 2006–2007 | Tîm Dan 19 Cymru | 5 | (0) |
| 2007– | Tîm Dan 21 Cymru | 13 | (0) |
| 2009 | Tîm Rhan-broffesiynol Cymru | 1 | (0) |
| 2010– | Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru | 9 | (0) |
| 2012 | Tîm pêl-droed Olympaidd Prydain Fawr | 2 | (0) |
| * Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 12:39, 25 Medi 2011 (UTC). † Appearances (Goals). |
|||
Chwaraewr pêl-droed Cymreig yw Neil Taylor (ganwyd 7 Chwefror 1989), sydd fel arfer yn chwarae mewn safle amddiffynwr i dîm Abertawe a thîm pêl-droed cenedlaethol Cymru. Mae'n enedigol o dref Rhuthun, Sir Ddinbych. Cafodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun.
Cychwynodd ei yrfa gyda Manchester United ond gadawodd y clwb pan oedd yn bymtheg oed.[2] Cyn hynny roedd wedi chwarae cryn dipyn o griced gan gynnwys bod yn aelod o dîm Gogledd Ddwyrain Cymru. Symudodd o Fanceinion i Wrecsam pan oedd yn 16, gan gychwyn efo'r tîm iau[3] ac arwyddo'n broffesiynol iddyn nhw yng Ngorffennaf 2007.[4] Llwyddodd i gyrraedd y tîm cyntaf yn ystod tymor 2007-8 pan ymddangosodd 27 o weithiau yng ngemau'r Gynghrair.[5] Arwyddodd estyniad i'w gytundeb ym Mawrth 2008 ac arhosodd yn Wrecsam tan 2010.[6]
Ar ddiwedd tymor 2009–10, ymunodd Taylor efo Tîm pêl-droed Abertawe ar free transfer. Talwyd £150,000 a 10% o unrhyw elw a oedd i ddod fel rhan o'r gytundeb. Cafwyd tribiwnlys i drafod y mater ychydig wedyn. Roedd ei gêm cyntaf yn erbyn Norwich City. Erbyn iddo droi ei figwrn wrth chwarae yn erbyn Reading ar ddydd Calan 2011 roedd wedi chwarae 15 o gemau'r gynghrair. Wedi seibiant o fis, ar 19 Chwefror chwaraeodd yn erbyn Doncaster Rovers - yn yr un wythnos daeth yn dad.
Oherwydd ei sgiliau diamheuol, cafwyd sawl cais i'w brynnu am dros filiwn o bunnoedd, gan Newcastle United ond daliodd yn driw i Abertawe a chafodd estyniad i'w gytundeb ganddynt.[7]. Roedd hynny'n beth da iddo ef ac i'r clwb a chafodd dymor arbennig wrth helpu'r Elyrch i gyrraedd yr 11fed safle yn yr Uwchgynghrair.
Ar 1 Medi 2012 torrodd ei figwrn wrth gwympo yn drwsgwl mewn gem yn erbyn Sunderland. O ganlyniad nid yw'n debyg o chwarae am weddill y tymor.[8]
Cymru[golygu]
Ar y 23ain o Fai 2010 y chwaraeodd ei gêm gyntaf dros ei wlad, a hynny yn erbyn Croatia yn Stadion Gradski vrt. Chwaraeodd bedair gwaith yng ngemau Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop 2012.
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ "Search 1984 to 2006 – Birth, Marriage and Death indexes". Findmypast.com. http://www.findmypast.com/post84BMDSearchStart.action?redef=0&searchType=B. Adalwyd 2009-06-16.
- ↑ "Swans agree terms with Neil Taylor". Swansea City A.F.C. 2010-06-30. http://www.swanseacity.net/page/Latest/0,,10354~2080885,00.html. Adalwyd 2010-07-01.
- ↑ "Neil Taylor". Wrexham F.C. http://www.wrexhamafc.premiumtv.co.uk/page/ProfilesDetail/0,,10311~41477,00.html. Adalwyd 2008-06-07.
- ↑ "Neil Taylor". Soccerbase. Racing Post. http://www.soccerbase.com/players_details.sd?playerid=47172. Adalwyd 2008-06-07.
- ↑ "Games played by Neil Taylor in 2007/2008". Soccerbase. Racing Post. http://www.soccerbase.com/players_details.sd?playerid=47172&seasonid=137. Adalwyd 2008-06-07.
- ↑ "Wrexham rookies sign new deals". BBC Sport. 2008-03-13. http://news.bbc.co.uk/sport1/hi/football/teams/w/wrexham/7294228.stm. Adalwyd 2008-06-07.
- ↑ http://www.walesonline.co.uk/footballnation/football-news/2011/06/27/swansea-city-turn-down-1-million-newcastle-bid-for-neil-taylor-91466-28951128/
- ↑ "Swansea defender Taylor out for rest of the season with broken ankle". Goal.com/en. http://www.goal.com/en/news/9/england/2012/09/02/3348975/swansea-defender-taylor-out-for-rest-of-the-season-with?source=breakingnews. Adalwyd 2012-09-02.