C.P.D. Dinas Abertawe

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth C.P.D. Abertawe)
Neidio i: llywio, chwilio
C.P.D. Dinas Abertawe
Cpdabertawe.jpg
Enw llawn Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe
(Swansea City Association Football Club)
Llysenwaau Y Jacks, Y Swans
Sefydlwyd 1912 (fel Tref Abertawe)
Maes Stadiwm Liberty,
Abertawe
(sy'n dal: 20,750)
Cadeirydd Baner Cymru Huw Jenkins
Rheolwr Baner Denmarc Michael Laudrup
Cynghrair Uwchgynghrair Lloegr
2011-2012 11eg (Uwchgynghrair Lloegr)
Gwefan Hafan y clwb
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref
Tymor cyfredol

Tîm pêl-droed Cymreig yn chwarae yn Uwchgynghrair Lloegr yw Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe (Saesneg: Swansea City Association Football Club)

Mae'r clwb wedi chwarae eu gemau cartref yn Stadiwm Liberty ers symud o Gae'r Fets yn 2005.

Cynnwys

Hanes [golygu]

Ffurfiwyd CPD Tref Abertawe ym 1912. Ymunodd y clwb â'r Gynghrair Deheuol, lle arhosasant tan iddynt ennill dyrchafiad i drydedd adran y Gynghrair yn 1920. Ym 1925 enillwyd y rhan Deheuol o'r drydedd adran gan yr Elyrch, a felly enillasant ddyrchafiad i'r ail adran - lle arhoson nhw tan 1947. Yn 1949 enillwyd yr un adran am yr eilwaith, ac fe chwaraewyd pêl-droed ail adran yn Abertwae tan 1964.

Disgynodd y clwb i'r bedwaredd adran am y tro cyntaf yn 1967, ac er bod Roy Bentley wedi codi'r tim yn ol i'r drydedd adran yn 1970, roedden nhw 'nol yn y bedwaredd yn 1973, a gorfodwyd iddynt wneud cais i'r Gynghrair i allu aros ynddi.

Fe aeth Abertawe drwy gyfnod euraidd o dan reolaeth Harry Griffiths ac yna John Toshack yn y saithdegau, wrth iddyn nhw godi o'r bedwaredd adran i'r cyntaf mewn pedwar tymor. Ond erbyn 1986 roedd y clwb yn ôl yn y bedwaredd adran unwaith eto.

Fe ddaeth dyrchafiad eto yn 1988, 2000 a 2005, cyn i Roberto Martinez arwain y clwb i'r Bencampwriaeth yn 2008.

Yr Uwchgynghrair [golygu]

Safleoedd y chwaraewyr ar gychwyn ffeinal y Football League Championship play-off; 2011.

Yn 2010-11, dyrchafwyd y clwb i Uwchgynghrair Lloegr ar ôl iddynt faeddu Reading o 4 gôl i 2 yn y gemau ail-gyfle. Dyma oedd y clwb Cymreig cyntaf i gyrraedd yr Uwchgynghrair.[1]

Ar gychwyn 2011-12 Abertawe oedd y tîm cyntaf o Gymru i chwarae yn Uwchgynghrair Lloegr ers ei sefydlu ym 1992. Mae'r Elyrch wedi trechu Arsenal, Lerpwl a Manchester City, sef prif dimau'r Uwchgynghrair ers degawdau. Gorffennodd yr Elyrch y tymor 11eg yn yr Uwchgynghrair, sef y safle gorau erioed i unrhyw dîm o Gymru, ond gadawodd Brendan Rodgers i reoli Lerpwl. Cafodd ei ddisodli gan Michael Laudrup ar gychwyn 2012-13.

Yn eu gêm gyntaf yn eu hail dymor (2012-13) yn yr Uwchgynghrair fe sgorion nhw 5 gôl wrth drechu Queens Park Rangers 5-0 odddi cartref.[2] Gwelwyd Abertawe ar dop yr Uwch Gynghrair - y tro cyntaf ers mis Hydref 1981i'r tîm fod ar gopa'r haen uchaf - gan guro Stoke City 2-1 i ffwrdd .

Ar 15 Hydref 2012 cyhoeddodd bwrdd y cyfarwyddwyr fod y clwb wedi gwneud elw o £14.6 miliwn ar ôl eu tymor cyntaf yn yr Uwchgynghrair, ac y bydd yr estyniad i Stadiwm Liberty yn gweld golau dydd. Ar 1 Rhagfyr cafodd Abertawe fuddugoliaeth mawr oddi cartref, drwy guro 2-0 yn erbyn Arsenal, gyda Michu yn sgorio ddwywaith yn ystod munudau olaf y gêm. Dyma oedd buddugoliaeth gyntaf Abertawe yn erbyn Arsenal mewn tri degawd. Ar 23 Ionawr, curodd Abertawe o 2-0 ar gyfanswm goliau yn erbyn Chelsea yn rownd gyn-derfynol Cwpan Cynghrair Lloegr.

Gwobrau [golygu]

Cynghrair Lloegr

  • Y Bencampwriaeth - Safle Uchaf - 6ed 1982-1983
  • Yr Adran Gyntaf - Pencampwyr 2007-2008
  • Yr Ail Adran - Pencampwyr 1924-1925, 1948-1949
  • Y Drydydd Adran - Pencampwyr 1999-2000

Cwpan Lloger

  • Rownd gynderfynol 1926, 1964

Cwpan Cymru

  • Ennillwyr (10) 1913, 1932, 1950, 1961, 1966, 1981, 1982, 1983, 1989, 1991
  • Ail Safle (8) 1915, 1926, 1938, 1940, 1949, 1956, 1957, 1969

Cyfeiriadau [golygu]


Uwchgynghrair Barclays 2013 - 2014

Dinas Abertawe| Arsenal | Aston Villa | Dinas Caerdydd | Chelsea | Crystal Palace | Everton | Fulham | Hull City | Liverpool | Manchester City | Manchester United | Newcastle United | Norwich City | Southampton | Stoke City | Sunderland | Tottenham Hotspur | West Bromwich Albion | West Ham United |

CymruAbertawe.png Eginyn erthygl sydd uchod am Ddinas a Sir Abertawe. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato