Casllwchwr
Oddi ar Wicipedia
| Casllwchwr Abertawe |
|
Mae Casllwchwr (neu Llwchwr, Saesneg : Loughor) yn dref ar aber yr Afon Llwchwr, yn sir Abertawe. Mae ganddi boblogaeth o 4,991 (2001).
[golygu] Hanes
Roedd caer Rufeinig yma o'r enw Leucarium. Ar ôl i'r Rhufeiniaid ymadael daeth Llwchwr yn rhan o deyrnas Gŵyr. Mae'n bosibl mai Casllwchwr oedd canolfan wleidyddol a gweinyddol hen gantref Eginog yn yr Oesoedd Canol Cynnar. Adeiladwyd castell Normanaidd ar safle'r hen gaer Rufeinig yn 1099.
Ymwelodd Gerallt Gymro â Chasllwchwr (Llwchwr) yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.
Ar un adeg yr oedd porthladd yma ond yn yr ugeinfed ganrif y prif ddiwydiant oedd tun a dur.
Abertawe · Casllwchwr · Clydach · Dyfnant · Y Gellifedw · Y Glais · Gorseinon · Llandeilo Ferwallt · Llanddewi · Llangyfelach · Llanilltud Gŵyr · Llanrhidian · Y Mwmbwls · Oxwich · Penclawdd · Pengelli · Pennard · Pentre Poeth · Pontarddulais · Pontlliw · Port Einon · Reynoldston · Rhosili · Sgeti · Treforys · Tre-gŵyr · Ynysdawe · Ynysforgan · Ystum Llwynarth


