Llangyfelach

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Dewi Sant a Sant Cyfelach, Llangyfelach

Pentref a chymuned yn ninas a sir Abertawe yw Llangyfelach. Saif tua pedair milltir i'r gogledd o ganol dinas Abertawe, ac i'r gorllewin o Dreforys. Mae traffordd yr M4 ychydig i'r gogledd.

Ceir yno ysgol gynradd, amlosgfa a thafarn. Mae'r eglwys wedi ei chysegru i Dewi Sant a Sant Cyfelach. Credir bod clas Celtaidd wedi bod ar y safle; mae tŵr yr eglwys bresennol, sydd ar wahan i'r eglwys ei hun, yn dyddio o'r 12fed ganrif. Ar un adeg roedd yr eglwys yn un o ganolfannau pwysicaf cantref Eginog. Tu mewn i'r eglwys mae Croes Llangyfelach, Croes Geltaidd yn dyddio o'r 9fed ganrif.

Enwogion [golygu]


CymruAbertawe.png Eginyn erthygl sydd uchod am Ddinas a Sir Abertawe. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato