Ynysdawe
Pentref bychan yn Sir Abertawe yw Ynysdawe (amrywiadau: Ynystawe, Ynys Dawe). Fe'i lleolir ar lan Afon Tawe i'r gogledd o ddinas Abertawe fymryn i'r de o Glydach. Rhed yr M4 heibio i'r de o'r pentref.
Gyferbyn ag Ynysdawe ceir Ynysforgan. Roedd gan y ddau le ran amlwg ym mywyd diwylliannol Morgannwg yn yr Oesoedd Canol am fod dau gartref y Tomasiaid yn gorwedd yno, un yn Ynysforgan a'r llall yn Ynysdawe. Yr enwocaf o'r teulu oedd Hopcyn ap Tomas (tua 1350 - 1400au), casglwr llawysgrifau, brudiwr a noddwr beirdd. Yn ôl traddodiad galwodd Owain Glyndŵr am ei gyngor fel brudiwr yn 1403 ac roedd Llyfr Coch Hergest a nifer o lawysgrifau eraill yn ei feddiant.
Lleolir Ysgol Gynradd Ynystawe yn y pentref. Mae'n ysgol gyfrwng Saesneg fechan sy'n bwydo Ysgol Gyfun Treforys. Ceir yr ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg agosaf yng Nghlydach a Llansamlet, ger llaw.
Pobl enwog o Ynysdawe [golygu]
- Henry Lewis, ysgolhaig Cymraeg
Dolen allanol [golygu]
- (Saesneg) Lluniau o Ynysdawe
Abertawe · Burry Green · Cadle · Casllwchwr · Crofty · Clydach · Dyfnant · Fforest-fach · Garnswllt · Y Gellifedw · Y Glais · Gorseinon · Llandeilo Ferwallt · Llanddewi · Llangyfelach · Llangynydd · Llanilltud Gŵyr · Llanmorlais · Llanrhidian · Llan-y-tair-mair · Y Mwmbwls · Nicholaston · Oxwich · Pen-clawdd · Pengelli · Pennard · Pentre Poeth · Pontarddulais · Pont-lliw · Port Einon · Reynoldston · Rhosili · Sgeti · Treforys · Tre-gŵyr · Y Crwys · Ynysdawe · Ynysforgan · Ystumllwynarth