Dynfant

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Dyfnant)
Neidio i: llywio, chwilio
Dyfnant
Abertawe
CymruAbertawe.png
Smotyn Coch.gif

Mae Dyfnant (llurguniad Saesneg: Dunvant) yn dref ar lan afon Clun ger Abertawe, yn Sir Abertawe gydag arwynebedd o 241 ha.[1] Mae yna gôr meibion yma, sef Côr Meibion Dyfnant.

Saif Dyfnant tua 4 milltir i'r gorllewin o Abertawe ar ymyl pen dwyreiniol penrhyn Gŵyr. Daeth i fodolaeth yn y 19eg ganrif yn sgil y diwydiant glo.

Capel Ebenezer, cartref cyfnant y Côr Meibion Dyfnant

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4][5]


Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Dynfant (pob oed) (4,383)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Dynfant) (321)
  
7.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Dynfant) (3528)
  
80.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Dynfant) (687)
  
37.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion[golygu]

  • Ceri Richards (1903-1971), arlunydd, a gydnabyddir fel un o arlunwyr pwysicaf Cymru'r 20fed ganrif; cafodd ei addysg yn ysgol babanod ac ysgol gynradd Dynfant.
  • John Ormond (1923-90), bardd a chyfarwyddwr ffilm.
  • Syr Granville Beynon (1914-1996), gwyddonydd.


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Defnyddir sillafiad safonol Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru a Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; cyhoeddwyd 2008; tud 549
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013

Cysylltiadau allanol[golygu]