Caerau Rhufeinig Cymru

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Map o rai o brif gaerau Cymru
Canwriad o tua 70 O.C.
Y Gaer (Brycheiniog)
Caer dros-dro ger Fferm Ffynhogion, ger Rhuthun.

Codwyd nifer o gaerau yng Nghymru gan y Rhufeiniaid rhwng canol y ganrif gyntaf O.C. a chanol y 4edd ganrif. Fe'i cysylltid gan rwydwaith o ffyrdd Rhufeinig.

Rhestr yn ôl maint[golygu]

Caerau mawr[golygu]

Roedd y rhwydwaith milwrol Rhufeinig yng Nghymru o siâp hirsgawr gyda phedair caer ym mhob congl ohono.

Yn y de-ddwyrain ceir caer Isca Silurum (Caerllion ar Wysg), ger Casnewydd heddiw. Hon oedd pencadlys y Rhufeiniaid yn y de. Yn gyfateb iddi yn y gogledd-ddwyrain dewiswyd safle ger aber Afon Dyfrdwy ar gyfer Deva (dinas Caer heddiw). Yn y ddwy gaer hyn sefydlwyd pencadlysoedd y llengoedd yng Nghymru, sef y Legio II Adiutrix yn Deva hyd 66 ac yna'r Legio XX Valeria Victrix, a'r Legio II Augusta yn Isca Silurum.

Yn ail i'r ddwy gaer roedd caer Segontium yn y gogledd-orllewin (ger Caernarfon) a chaer Maridunum (neu Moridunum) yn y de-orllewin (Caerfyrddin).

Yn ogystal roedd yna gaer yn Viroconium (ger Caerwrygion) i gadw golwg ar ganolbarth y wlad.

Yn ychwanegol i'r caerau hyn roedd yna gyfres o gaerau llai:

Yn y gogledd ceir Caer Gybi ac Aberffraw ar Ynys Môn, Caerhun (Dyffryn Conwy), Bryn-y-Gefeiliau (neu Caer Llugwy, ger Capel Curig), Pen Llystyn (ger Bryncir), Tomen-y-mur, Caer Gai, Y Bala a Pennal ym Meirionnydd. Mae lleoliad Varis yn ansicr, ond credir iddi gael ei chodi ger Llanelwy.

Yn y canolbarth a'r gorllewin ceir Caersŵs, Caer Ffordun a Cae Gaer ym Maldwyn, Trawscoed a Llanio yng Nhgeredigion, Caerau, Pen-y-gaer ac Y Gaer ym Mrycheiniog, a chaerau Castell Collen a Clyro ym Maesyfed.

Yn olaf, yn y de-ddwyrain ceir Coelbren Gaer, Castell Nedd, Pen-y-darren, Gelli-gaer a chaer Caerdydd ym Morgannwg, a chaer Y Fenni a Choed y Caerau ym Mynwy.

Caerau llai[golygu]

Rhwng y caerau mawr ceir caerau llai yn Holt, Brithdir (Meirionnydd), Pen-y-crogbren (Sir Drefaldwyn), Pant Teg Uchaf (Ceredigion), Mynydd Myddfai a Castell Madog ym Mrycheiniog a Hirfynydd ym Morgannwg a Caer Rufeinig Blestiwm yn Sir Fynwy.

Mathau gwahanol[golygu]

Gwylfeydd[golygu]

Darganfuwyd olion gwylfeydd Rhufeinig ar Fynydd Twr ger Caergybi, yn Bryn Glas ger Segontium (Arfon) a ger caer Hirfynydd ym Morgannwg. Pwrpas y rhain oedd rhoi rhybudd i'r gaer pe ddeuai ymosodiad.

Gwersylloedd dros dro[golygu]

Ceir olion caerau dros dro yn: Pen-y-gwryd ger yr Wyddfa, Rhyd Sarn (Meirionnydd), ger Caersws a Chaer Fforden (Trefaldwyn), Cwm-y-cadno ac Arosfa Garreg (Sir Gaerfyrddin), Y Pigwn, Heol-y-gaer ac Ystradfellte (Brycheiniog) a Blaen-cwm-bach, Twyn-y-briddallt a Pen-y-coed Cae ym Morgannwg.

Caerau ymarfer[golygu]

Gerllaw Tomen-y-mur a Doldinas (Meirionnydd), Caerau (Brycheiniog), ar Gomins Llandrindod ac ar Gomins Stafford, Mynydd Carn Coch a Chomins Gelli-gaer ym Morgannwg.

Rhestrau Cadw[golygu]

Nodir y caerau a'r gwersylloedd canlynol ar restr Cadw.[1]

Caer[golygu]

Caerswsgw uchodSO028918

Cadarnle lleng[golygu]

(Saesneg: Legionary fortress)
Mae'r unig gadarnle lleng y gwyddys amdano yng Nghaerllion.

Gwersylloedd dros dro[golygu]

(Saesneg: marching camp)

Gwersylloedd ymarfer[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

Ffynonellau[golygu]

  • I. Ll. Foster a Glyn Daniel (gol.), Prehistoric and Early Wales (Llundain, 1965)
  • Christopher Houlder, Wales: an Archaeological Guide (Llundain, 1978)


Caerau Rhufeinig Cymru Segontium.JPG
Brithdir | Bryn-y-Gefeiliau | Brynbuga | Cae Gaer | Caer Ffordun | Caer Gai | Caerau | Caerdydd | Caersws | Gelli-gaer | Caer Gybi | Caerhun (Canovium) | Caerllion | Castell Caerdydd | Castell Collen | Y Gaer | Gelligaer | Llanfor | Llanio | Maridunum | Nidum | Pen Llystyn | Pen y Gaer | Pennal | Segontium | Tomen y Mur | Trawscoed | Varis