Caer Rufeinig
Caer Rufeinig yw'r term Cymraeg am yr gwersylloedd gydag amddiffynfeydd a elwir yn Castra (unigol: castrum) yn Lladin.
Ceir sawl math ar gaer Rhufeinig; rhai parhaol, rhai a ddefnyddid yn yr haf yn unig a rhai dros dro. Gallai'r maint hefyd amrywio'n fawr, o gaer ar gyfer Lleng Rufeinig gyfan, er enghraifft Caerllion, i gaer ar gyfer nifer fychan o filwyr cynorthwyol. Gallent fod wedi ei hadeiladu o gerrig neu o goed gyda chloddiau pridd. Er hynny, roedd y cynllun sylfaenol yr un fath ym mhob un ohonynt. Roedd y gaer yn hirsgwar, gyda chorneli hanner crwn, tebyg i ffurf cerdyn chwarae. Tu mewn i'r miriau, roedd dwy brif ffordd, y via principalis a'r via praetoria yn cyfarfod yn y canol. Yma y ceid y praetorium, lle roedd yr adeiladau neu bebyll i lywodraethwyr y gaer.
Mae "Caer" yn elfen gyffredin mewn enwau lleoedd yng Nghymru, e.e. Caerdydd, Caernarfon.