Tomen y Mur

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tomen y Mur
TomenyMur2.jpg

Mae Tomen y Mur neu Mur y Castell yn safle caer Rufeinig a chastell o'r cyfnod Normanaidd yng Ngwynedd; cyfeiriad grid SH709384.

Saif Tomen y Mur ym mhen draw lôn fechan sy'n arwain i'r dwyrain oddi ar y briffordd A470 rhyw chwarter milltir i'r de o'r gyffordd gyda'r A487, i'r de-ddwyrain o bentref Gellilydan ac i'r gogledd o Drawsfynydd.

Credir i'r gaer Rufeinig gael ei hadeiladu o gwmpas 77 neu 78 OC. yn ystod ymgyrchoedd Agricola yn y cylch. Yn wreiddiol roedd muriau pridd yn amgylchynu sgwar o tua 1.7 ha.. Yng nghyfnod yr ymerawdwr Hadrian, tua 120 OC., ail-adeiladwyd y gaer mewn carreg. Cafwyd hyd i ddeg maen gyda arysgrifau yn cofnodi gwneud y gwaith yma gan wahanol "ganrifoedd" o filwyr; mae un o'r meni hyn yn awr yn nhafarn y Grapes, Maentwrog. Credir fod y gaer wedi ei gadael erbyn canol yr ail ganrif. Gellir gweld nifer o olion Rhufeinig diddorol yno, gan gynnwys amffitheatr fechan, baddondy a mansio, gwesty ar gyfer teithwyr. Roedd y gaer ar ffordd Rufeinig Sarn Helen, a gellir gweld olion y ffordd yn y cyffiniau hefyd, gan gynnwys olion y bont lle roedd yn croesi Nant Tyddyn-yr-ynn, ychydig islaw Llyn yr Oerfel, oedd yn cyflenwi dŵr i'r gaer. Rhedai ffordd Rufeinig arall drosodd i Bennant-Lliw ac i gaer Rufeinig Caer Gai ger Llyn Tegid.

Mwnt y castell

Mae cyfeiriad at Domen y Mur, dan yr enw "Mur y Castell" yn y bedwaredd gainc o'r Mabinogi, chwedl Math fab Mathonwy. Mae Lleu Llaw Gyffes a Blodeuwedd yn byw yno, wedi i Flodeuwedd gael ei chreu gan y dewin Gwydion fel gwraig i Lleu.

Yr Oesoedd Canol[golygu]

Nid oes llawer o wybodaeth ar gael am y castell, castell mwnt a beili yn yr arddull Normanaidd. Tomen y castell sydd wedi rhoi ei enw i'r safle; mae wedi ei adeiladu o fewn y gaer Rufeinig fel bod muriau'r gaer yn ffurfio'r beili. Credir ei fod yn dyddio o ran olaf yr 11eg ganrif, ac efallai fod ganddo gysylltiad â'r ymladd rhwng y Normaniaid a Gruffudd ap Cynan am reolaeth ar Wynedd. Gwyddir i Wiliam II, brenin Lloegr fod ar ymgyrch yma yn 1095.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • Frances Lynch, A guide to ancient and historic Wales: Gwynedd (HMSO, 1995)

Gweler hefyd[golygu]

Mae'r safle yng ngofal CADW ac yn agored i'r cyhoedd. Cofrestrwyd yr heneb hon gyda'r rhif SAM unigryw: ME078.[1]

Cyfeiriadau[golygu]


Caerau Rhufeinig Cymru Segontium.JPG
Brithdir | Bryn-y-Gefeiliau | Brynbuga | Cae Gaer | Caer Ffordun | Caer Gai | Caerau | Caerdydd | Caersws | Gelli-gaer | Caer Gybi | Caerhun (Canovium) | Caerllion | Castell Caerdydd | Castell Collen | Y Gaer | Gelligaer | Llanfor | Llanio | Maridunum | Nidum | Pen Llystyn | Pen y Gaer | Pennal | Segontium | Tomen y Mur | Trawscoed | Varis