Caer Rufeinig Llanfor

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Saif olion Caer Rufeinig Llanfor ger pentref Llanfor, ychydig tu allan i dref y Bala yng Ngwynedd; cyfeiriad grid SH937361.

Cafwyd hyd i'r gaer trwy dynnu lluniau o'r awyr. Gan fod y safle wedi ei glustnodi ar gyfer maes Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 1997, gwnaed arolwg geoffisegol gan Ymddiriedaeth Archaeolegol Gwynedd. Roedd gan y gaer arwynebedd o bron ddeg acer, gyda 22 o flociau barics tu mewn. Roedd vicus tu allan i'r gaer, a mynwent tu allan i'r porth gogledd-ddwyreiniol. Gerllaw, roedd olion gwersyll dros tro, gydag arwynebedd o 28 acer.

Credir i'r gael ei hadeiladu oddeutu cyfnod teyrnasiad yr ymerawdwr Domitian. Mae'n un o nifer o gaerau Rhufeinig yn yr ardal yma.

[golygu] Llyfryddiaeth

  • Symons, S. Fortresses and treasures of Roman Wales (Breedon Books, 2009)

Mae'r safle yng ngofal CADW ac yn agored i'r cyhoedd. Cofrestrwyd yr heneb hon gyda'r rhif SAM unigryw: ME092. [1]

[golygu] Cyfeiriadau


Caerau Rhufeinig Cymru Segontium.JPG
Brithdir | Bryn-y-Gefeiliau | Brynbuga | Cae Gaer | Caer Ffordun | Caer Gai | Caerau | Caerdydd | Caersws | Gelli-gaer | Caer Gybi | Caerhun | Caerllion | Castell Caerdydd | Castell Collen | Y Gaer | Gelligaer | Llanfor | Llanio | Maridunum | Nidum | Pen Llystyn | Pen y Gaer | Pennal | Segontium | Tomen y Mur | Trawscoed | Varis
Senedd.jpg Eginyn erthygl sydd uchod am hanes Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer